Tudalen:Cofiant Ann Griffiths gynt o Dolwar Fechan.pdf/11

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHAGYMADRODD.

Y MAE yn achos o syndod a galar na feddyliodd neb am ysgrifenu cofiant i'r emynes odidog o Ddolwar Fechan, nes ydoedd mwy na deugain mlynedd wedi myned heibio er ei hymadawiad â'r fuchedd hon. Tua deunaw mlynedd yn ol, wrth ganfod a theimlo yr esgeulusdra beius hwn, a chyda'r amcan o gasglu defnyddiau tuag at barotoi cofiant iddi, darfu i un brawd oedd yn parchu ei henw a'i gwaith dynu allan gyfres led fanwl о ofynion yn dwyn perthynas â'i hanes, y rhai a anfonwyd i'r diweddar Mr. John Jones o Lanfyllin, ei nai, gyda deisyfiad am attebion iddynt, a phob rhyw hysbysiadau ereill am dani a ellid gael yn mhlith ei cheraint a'i hen gydnabod, y rhai y pryd hwnw oeddynt etto yn aros ar dir y rhai byw. I'r dyben hwn, anfonwyd y gofynion hefyd i'r diweddar Barch. John Hughes, Pont Robert, gan ei fod ef a'i briod, Mrs. Ruth Hughes, yn gwybod mwy am dani na neb arall. Yntau mewn canlyniad a ysgrifenodd y cofiant a ymddangosodd yn y Traethodydd, am 1846, td . 420, & c. Er byred ac ammherffeithied ydoedd hwnw, yr oedd yn werthfawr iawn ei gael; ac am flynyddoedd lawer ni feddyliwyd am un arall. Modd bynag, tua dwy flynedd yn ol, darfu i'r symmudiad am y gof-