Tudalen:Cofiant Ann Griffiths gynt o Dolwar Fechan.pdf/12

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

golofn iddi gyffroi cryn awydd am gael hefyd gofiant helaethach iddi dan nawdd y pwyllgor ; a chan feddwl fod lliaws o fân gofion tra dyddorol am dani etto heb lwyr golli, penderfynwyd gwneyd ymdrech i'w casglu ynghyd; a gwelir y ffrwyth yn y tu dalenau canlynol. Dichon y teimla rhai yn siomedig na buasid yn fwy llwyddiannus; ond os ystyrir fod yn agos i drigain mlynedd oddi ar ei marwolaeth, ysgatfydd y cydnabyddir fod yma gymmaint o'i hanes wedi ei grynhoi ynghyd ag a ellid yn rhesymol ei ddisgwyl ar ol cymmaint o amser. Mae yr ysgrifenydd yn dymuno cydnabod ei rwymedigaeth i awdwr y cofiant blaenorol am lawer o gynnwysiad yr un presennol. Dymuna hefyd gyflwyno ei ddiolchgarwch diffuant i aelodau pwyllgor y gofgolofn am eu cefnogaeth, ac i berthynasau Mrs. Griffiths, yn Mhowys a Deheubarth, ynghyd â nifer o hen gyfeillion a chydnabod y teulu, am eu cynnorthwy tuag at gyflenwi y cofiant hwn, at yr hyn y cyfeirir yn fynych yn nghorph yr hanes.

Chwiliwyd coflyfrau eglwys y plwyf am amser ei genedigaeth, ac i gael ei hoedran yn marw yn gywir; yr hyn sydd dair blynedd yn fwy nag ei rhoddwyd gan ei bywgraphydd cyntaf. Chwanegwyd hefyd gryn nifer o fân gofion, yn dangos agwedd y wlad o ran crefydd a moesau yn ei hamser hi. Mae y rhanau ereill o'r llyfr, yn llefaru drostynt eu hunain.

Bellach, cyflwynir y cyfan yn ostyngedig i sylw a hynawsedd y cyhoedd; ac yn enwedig i'r rhai hyny, o bob enwad crefyddol yn ein gwlad,