Tudalen:Cofiant Ann Griffiths gynt o Dolwar Fechan.pdf/13

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a ddangosasant gymmaint dyhewyd dros ei choffadwriaeth, ac i bawb oll a gyfranasant mor haelionus tuag at ei chôfgolofn, gan obeithio y bydd y darlleniad o hono er budd a diddanwch i'w heneidiau.

Derbyniwyd yr ychydig hysbysiadau canlynol ar ol rhoddi y cofiant yn y wasg, ac felly yn rhy ddiweddar i ddiwygio yr amseriad yn y lle oedd y perthynant iddynt.—Bu farw Jane Thomas, mam Ann Griffiths, yn mis Ionawr, 1794; a chladdwyd hi ar yr 3lain o'r mis. Bu farw John Thomas, ei thad, yn mis Chwefror; a chladdwyd ef ar y 23ain o'r mis, 1804, ac nid 1803, fel ei rhoddwyd gan J. Hughes; felly yr oedd efe flwyddyn yn hŷn nag y dywedwyd pan y bu farw. John Thomas, ei brawd, a fu farw yn mis Ionawr, ac a gladdwyd ar y 3ydd o'r mis, 1807, yn 36 mlwydd oed. Yn nghofrestr angladdau yn Llanfihangel, gelwir Dolwar Fechan weithiau, "Dolwar Fach," a "Dolwar Isaf."

M. D.

Bangor, Mai 20fed, 1865.