Tudalen:Cofiant Ann Griffiths gynt o Dolwar Fechan.pdf/15

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

COFIANT.



ARWEINIAD I MEWN.

Yn yr Ysgrythyr Lân, fe goffeir am liaws o wragedd sanctaidd gydag anrhydedd arbenig: nid mewn bywgraffiadau manwl a helaeth, mae yn wir, ond yn y crybwylliadau cynnwysfawr ac addysgiadol a wneir amdanynt, pan fyddo eu henwau yn dyfod i mewn yn naturiol yn rhediad yr hanesiaeth gyssegredig, o herwydd rhyw rinweddau canmoladwy a ddangoswyd, neu ryw weithredoedd ffyddiog a gyflawnwyd ganddynt yn eu cyssylltiad âg achos crefydd yn y byd. Mae pob cofnodiad byr o'r fath yn mron yn fywgraffiad cyflawn a pharhaus, fel y mae pob awgrymiad cynnwysedig ynddynt mor gyfoethog o'r addysgiadau mwyaf buddiol a gwerthfawr. Fel yr oedd y gwragedd da hyny "yn gobeithio yn Nuw," ac yn gogoneddu ei ras mewn ymddygiadau rhagorol, y maent yn esamplau teilwng i'w dilyn, gan wragedd a merched crefyddol trwy yr oesoedd. Ychydig a byr yw yr hyn a goffeir gan ysbrydoliaeth am ein cynfam Efa; ond y mae oll yn gyflawn o addysg, ac o'r pwys mwyaf. Cawn banes ei chread, ei phriodas â'n tad cyffredinol, eu cyflwr dedwydd yn Ngwynfa; ac yna yr adroddiad difrifol a galarus o'r modd ei hudwyd i bechod trwy ddichell y sarph. Ond er mai hi oedd "yn gyntaf yn y camwedd," yr ydym yn cael yr hysbysiad grasol mai iddi hi yn gyntaf y rhoddwyd yr addewid am Grist, y Gwaredwr, dan yr enw arwyddocaol o "Hâd y Wraig," yr hwn a ysigai ben