Tudalen:Cofiant Ann Griffiths gynt o Dolwar Fechan.pdf/16

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y sarph ddichellgar a bradwrus. Mae yr ychydig a ddywedir am ei helyntion a'i phrofedigaethau teuluaidd yn rhoddi lle i feddwl yn hyderus ei bod hi wedi derbyn yr addewid yn grediniol, a'i bod yn tynu ei chynnaliaeth a'i chysur o honi yn ei thrallodau a'i chyfyngderau. Ni roddwyd i ni wybod oedran ein mam gyffredinol yn marw.

Yr unig wraig y coffeir yn y Beibl am ei hoedran yn marw ydyw Sarah, gwraig Abraham; yr hon, wedi byw yn rhinweddol a pharchus, a fu farw yn 127 mlwydd oed, ac a gladdwyd yn anrhydeddus yn ogof Mach- pelab. Hi ydyw y gyntaf o ferched Efa y gwneir coffa pennodol ac anrhydeddus o'i ffydd yn y Testament Newydd (Heb. xi. 2); yr hyn sydd yn brawf ei bod wedi cael ei galw i lanw lle pwysig yn eglwys Dduw yn ei dydd a'i chenhedlaeth. Hawdd y gallem liosogi ein hesamplau o'r cynddydd, pe byddai achos, trwy goffau Iochebed a Rahab, a gwraig Manoab, Ruth, a Naomi, a llawer gyda hwy, y rhai ni fuasai yn awr air o son am danynt, oni buasai eu crefydd a'u duwioldeb; ond ni oddefa ein gofod i ni sylwi arnynt yn bresennol bob yn un ac un.

I ddyfod yn nes ynte at yr amcan mewn golwg, yr ydym yn cael rhai o'r gwragedd sanctaidd gynt Cawn yn gantoresau a cherddoresau rhagorol. Miriam, y brophwydes, gyda'i thympan; a holl wragedd y gynnulleidfa yn ei dilyn a thympanau ac â dawnsiau, yn canu yn orfoleddus ar lan y Môr Coch yr emyn gyssegredig gyutaf sydd ar gael. Cawn Deborah, gyda Barac, yn canu emyn odidog o fawl i Arglwydd Dduw Israel ar ol buddugoliaethu ar labin a Sisera, gelynion Israel, a'u gorthrym. wyr creulawn. Hannah, hithau a weddïodd, ac a ganodd, a ddeisyfodd, ac a ddiolchodd hefyd; a hi a gyflwynodd ei chyntafanedig, Samuel, i'r Arglwydd, "yr holl ddyddiau y byddai efe byw;" a mawr oedd yr hyfrydwch a fwynhäai y wraig dduwiol hono wrth nyddu a gwau mantell fechan