Tudalen:Cofiant Ann Griffiths gynt o Dolwar Fechan.pdf/17

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i'w dwyn iddo o flwyddyn i flwyddyn ar adeg yr aberth blynyddol, a chael ei bachgen hoff "yn gweini o flaen yr Arglwydd, wedi ymwregysu âg ephod lian, yn cynnyddu ac yn myned yn dda gan Dduw, a dynion hefyd." Yn y Testament Newydd, yr ydym yn cael Elizabeth a Mair, mewn cyffelyb fodd, yn tywallt eu teimladau diolchgar a ffyddiog mewn odlau hyfryd o fawl yn flaenorol i enedigaeth y Messiah, Dywedir am Phylip yr efengylwr, fod iddo "bedair merched o forwynion, yn prophwydo;" Act. xxi. 9. Pa beth bynag a feddylir yma yn benaf wrth "brophwydo," nid yw yn syniad annaturiol nac anysgrythyrol i dybied fod y merched ieuaingc hyn yn gantoresau godidog, a'u bod yn arfer eu dawn yn hyn er gogoniant y Gwaredwr ac adeiladaeth yr eglwys; ac felly yn esamplau dilynwiw i ferched, yn enwedig y rhai ieuaingc, i fod bob amser yn barod ac ymdrechgar i gyflawni eu rhan yn nghaniadaeth y cyssegr.

Y mae Pen yr Eglwys wedi dyrchafu y rhyw fenywaidd yn fynych mewn modd tra nodedig, ac mewn rhai pethau uwch law y rhyw arall; er hyny, yn berffaith gysson â'u sefyllfa mewn cymdeithas. Y mae wedi eu donio yn rhyfedd ar achlysuron, i ddybenion sanctaidd a goruchel o dduwioldeb a defnyddioldeb. Ar ben y rhestr yr ydym yn cael "Mair, mam yr Iesu," yn "fendigaid yn mhlith gwragedd;" a'i chares, Elizabeth, gyda'i phriod, "yn rhodio yn holl orchymynion a deddfau yr Arglwydd yn ddiargyhoedd." "Anna y brophwydes" oedd un o'r rhai cyntaf i lefaru am y Gwaredwr, gan foliannu yr Arglwydd mewn tymmer nefolaidd ar amser cyflwyniad y dyn bychan yn y deml. Yn ysbaid gweinidogaeth gyhoeddus ein Harglwydd, y mae gwragedd duwiol Galilea yn dyfod i sylw anrhydeddus yn eu hymlyniad ffyddlawn wrth yr hwn y derbyniasent gymmwynasau mor fawr oddi ar ei law: Mair Magdalen; Mair mam Iago, ac Ioses; Ioanna,