Tudalen:Cofiant Ann Griffiths gynt o Dolwar Fechan.pdf/18

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Susanna, Salome, "a llawer ereill, y rhai oedd yn gweini iddo o'r pethau oedd ganddynt." Glynasant hwy wrtho pan oedd ereill wedi ffoi, ac yr ydym yn eu cael gyda'r rhai olaf wrth ei groes, ac wrth ei fedd; a gwobrwywyd eu ffyddlondeb trwy iddo ymddangos yn gyntaf i rai o honynt hwy, a chawsant y fraint o ddwyn y newydd gorfoleddus am ei adgyfodiad yn flaenaf rhai i'r apostolion. Yr ydym yn eu cael hefyd, ar ol ei esgyniad i'r nef, yn mhlith yr ugain a chant yn yr oruwch-ystafell yn Ierusalem, yn disgwyl mewn gweddi ac ymbil am gyflawniad yr addewid am dywalltiad yr Ysbryd Glân, yr hyn a gymmerodd le ar ddydd y Pentecost. Amser a ballai i ni sôn yn wahanedig am Mair a Martha, o Bethania; Mair mam Ioan. Marc, yr hon y cedwid cyfarfod gweddi yn ei thy y noson y gwaredwyd Pedr o'r carchar; Dorcas elusengar, a Lydia ffyddlawn; Phebe, Priscilla, Iunia, Iulia, Tryphosa, a'r anwyl Persis, y nain Lois a'r fam Eunice, a'r "arglwyddes etholedig" yr ysgrifenodd Ioan ei ail epistol ati. Mae eu henwau yn beraroglaidd o herwydd eu cariad at yr Iachawdwr, eu cymmwynasau i'w saint, a'u gwasanaeth yn achos yr efengyl. Mae yn eu plith rai o bob oedran, sefyllfa, galluoedd, a chyrhaeddiadau, fel y maent yn esamplau teilwng i wragedd a merched crefyddol trwy yr oesoedd. Mae y rhai da a rhinweddol yn wastad yn eu dilyn, ac megys yn "ferched" iddynt, a thrwy hyny yn rhoddi prawf i'r byd o effeithiau bendithiol gwir grefydd. Y maent yn fynych yn cael eu galw i weithredu mewn modd a than amgylchiadau nad allai neb ond y rhyw fenywaidd weithredu ynddynt gyda'r tynerwch amgeleddgar, a'r ymroddiad pwyllog a hunan-ymwadol y bydd achosion pwysig a difrifol o'r fath yn eu gofyn. Er na chaniatawyd i wragedd athrawiaethu yn gyhoeddus yn yr eglwys, na chymmeryd rhan yn eu Llywodraethiad, y maent yn addysgu yn deuluaidd