Tudalen:Cofiant Ann Griffiths gynt o Dolwar Fechan.pdf/19

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac o'r neilldu yn dra effeithiol; le, rai, megys Timotheus ac Apollos, i fod o ddefnyddioldeb cyhoeddus ac eang iawn.[1] Y mae niferi o famau a merched yn addurno hanes yr eglwys yn mhob oes, ac yn chwyddo rhif gogoneddus "ardderchog lu y merthyri," trwy eu dianwadalwch yn eu proffes o Grist, a'u ffyddlondeb iddo hyd angeu. Y mae rhai wedi bod yn hynod mewn gweddiau dros eu plant, eu teuluoedd, eu perthynasau, ac ereill; rhai mewn gweithredoedd o gariad ac elusen; ereill mewn dysg a llenyddiaeth, wedi gwneuthur llawer o les trwy eu hysgrifeniadau. Y mae lliaws mawr wedi bod, a llaweroedd etto yn awr, yn llafurio yn ddiwyd ar y meusydd cenadol, a'u hymdrechiadau yn cael eu coroni â llwyddiant. Y mae rhai wedi cael oes faith a manteision helaeth i fod yu ddefnyddiol; ereill wedi gweithio yn rhagorol dan anfanteision lawer, ac mewn tymmor byr.

Gellir dywedyd mai un o'r rhai olaf hyn oedd Mrs. ANN GRIFFITHS—i goffadwriaeth yr hon y cyflwynir y tudalenau canlynol. Yr ydym yn gobeithio y gwel y darllenydd hynaws a diragfarn ryw radd o briodoldeb yn y llinellau rhagarweiniol hyn, fel y maent yn cynnwys adolygiad brysiog ar dduwioldeb a gweithgarwch y rhyw, i ddwyn i sylw y cyffelyb ragoriaethau yn ei hamgylchiad hi.

Oes fer, mewn cymhariaeth, a gafodd y wraig hynod hon i wneyd daioni, ac i ffrwytho yn ngwinllan ei Harglwydd. Tan ofal cysson a thriniaethau glanhaol y Pen-gwinllanydd nefol, cafodd nerth i ddwyn ffrwyth lawer, a'i haddfedu yn fuan i ogoniant. Cafodd ei symmud o hinsawdd oer ac afiach y ddaear hon i hinsawdd baradwysaidd y Wlad Well; gwlad yr oedd ei serch yn gymmaint arni, a'i hiraeth mor angerddol am gael myned iddi pan ydoedd ar ei thaith yma yn anialwch y byd. Ac er

mai byr fu ei harosiad yn yr eglwys isod, y mae hi,

  1. Gwel Y Gwyddoniadur, dan y gair Anweddaidd.