Tudalen:Cofiant Ann Griffiths gynt o Dolwar Fechan.pdf/20

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fel Abel gynt, trwy ei ffydd, yn ei hanes, ei llythyrau, a'i hymnau, yn llefaru etto er gogoniant i'r hwn a'i carodd, ac er cysur i aml un o bererinion Seion wrth dynu yn mlaen tua'r bywyd, trwy beryglon, gorthrymderau, a phrofedigaethau, ymweliadau grasol, a gwaredigaethau, cyffelyb i'r rhai a'i cyfarfu ac a brofodd hithau.

Y mae ei chlod, yn enwedig trwy ei hemynau, wedi ymdaenu erbyn hyn trwy yr holl eglwysi Cymreig, yn mron, o bob enwad yn Nghymru, a threfydd Lloegr, ac yn America, ac Awstralia bell; a'i henw wedi myned yn air teuluaidd ar bob aelwyd grefyddol, braidd, lle y mae yr iaith Gymraeg yn cael ei choleddu; a diammheu genym y bydd pob hysbysrwydd a ellir ei gael yn mherthynas iddi bellach yn gymmeradwy gan y cyhoedd. I'r dyben o olrhain gweithrediadau Rhagluniaeth a gras ar ei rhan yn ei dygiad i fyny o'i mebyd, ei throedigaeth, ei bywyd duwiol a defnyddiol, a'i diwedd tangnefeddus, rhaid i ni yn gyntaf gymmeryd hamdden i roddi crynodeb o hanes y teulu yr hanodd o hono, ynghyd disgrifiad o arferion y wlad yn ei hoes a'i hamser hi, a chyn hyny, yr hyn a wnawn mor fanwl ag y caniatâ ein defnyddiau.

TEULU DOLWAR FECHAN.

WEITHIAN, deued y darllenydd hynaws gyda ni am unwaith ar daith ymweliadol i swydd Drefaldwyn. Ni a ddychymygwn ein bod wedi cyrhaedd gorsaf Llanfyllin gyda'r trên, fel y dywedir, neu ryw ffordd arall. Yn mhlith y gwrthddrychau cyntaf i dynu ein sylw yma, y mae capel Pen y Dref, perth-