Tudalen:Cofiant Ann Griffiths gynt o Dolwar Fechan.pdf/21

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ynol i'r Annibynwyr, a'r Ysgol Frytanaidd ger llaw iddo; ac yr ydym yn cael ein sirioli wrth yr olwg ddestlus, gryno, a glanwaith sydd arnynt, a'r lle o'u hamgylch. Y mae capel newydd y Methodistiaid yn nghanol y dref; ac yn mhlith aelodau yr eglwys yno, y mae rhai o ddisgynyddion y teulu y cyfeiriasom ato. Ond heb ymdroi yn hwy yn y fangre hon, a chyda'r golygfeydd prydferth o'i hamgylch, sydd yn awr yn dwyn i'n meddwl adgofion lawer ac amrywiol o'r amser gynt, ni a gyfeiriwn ein taith, gan ddilyn y brif ffordd trwy Gwm Nant Alan, tua Llanfihangel yn Ngwynfa; yr hon sydd yn sefyll o ddeutu pum milldir i'r gorllewin o dref Llanfyllin. Oddi yma yn mlaen, ni a gymmerwn y cydymaith diddan, "Ein Gohebydd o Lundain" [Baner ac Amserau Cymru a'n cyfaill, "Methodist o Faldwyn," yn arweinyddion i ni; a dyma ni wedi "dyfod at bont yn croesi ffrwd fechan:— ei henw ydyw Pont Ysgadan. Yr ydym yn awr yn gadael y brif ffordd; ac ar y chwith i ni, tua hanner milldir oddi wrth y bont, ar lanerch wastad, c|"Fry ar flodeuog wyrddlas fryn," y saif eglwys fechan Llanfihangel yn Ngwynfa, yr hon sydd wedi ei hadgyweirio a'i phrydferthu yn ddiweddar; ac yn y fynwent yna y gorwedda llwch Ann Griffiths, lle y mae edmygwyr ei choffadwriaeth yn awr wedi cyfodi cofgolofn brydferth iddi. Mae y ffordd oddi wrth y bont yn myned i lawr ar draws cwm bychan, heibio i faes lle y gweithir priddfeini a phibellau dyfr-ffosydd, ac yn amgylchu i fyny gyda llethr y bryn. Yr ydym yn cyrhaedd treflan Llanfihangel yr ochr bellaf oddi wrth y bont. Oddi yma, yn ddiymaros, arweinir ni yn mlaen tua'r de, am o ddwy i dair milldir, rhyngom a Dolanog a Phont Robert, ar hyd ffordd weddol dda, ond ei bod yn anwastad. Mae yr ardal hon, nid yn ddyffryn, na mynydd-dir chwaith; ond yn fryniau a llechweddi bychain, pantiau, a chymmoedd. Y mae