Tudalen:Cofiant Ann Griffiths gynt o Dolwar Fechan.pdf/22

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dolwar Fechan ar waelod cwm o'r fath, fel na welir mo hono o'r cyfeiriad yr ydym ni yn nesau ato, mwy nag o'r tu arall, gyferbyn, nes ein bod uwch ei ben.

"A dyma Ddolwar Fechan! yn y ceunant tawel, unig yna o'n blaen. Mae yr amaethdy bychan acw, yn y cwm distaw a dinôd yna wedi ei wneyd yn enwog rhagor unman arall yn agos ato, gan ferch ieuangc a fagwyd ynddo tua phedwar ugain o flynyddoedd yn ol. Bydd Dolwar Fechan yn enw cyssegredig an oesoedd- -yn gyssegredig beth bynag tra byddo canu hymnau yn yr hen iaith Gymraeg !" Dyma ni yn awr ar ben ein taith, ac yma y bwriadwn ymdroi bellach dros ryw hyd.

Yn y fangre neillduedig yma yr oedd pâr priodasol parchus yn cyfanneddu yn ysbaid y rhan olaf o'r ddeunawfed ganrif. Eu henwau oedd John a Jane Thomas.* Yn ei gymmydogaeth ei hun, gelwid y gŵr yn gyffredin Siôn Ifan Thomas. Bu iddynt bump o blant: Jane, John, Elizabeth, Ann, ac Edward. Gwelwn wrth y rhestr yma mai gwrthddrych y cofiant hwn oedd eu merch ieuangaf, a'r ieuangaf ond un o'r plant.

Rhoddwn yma gopi o gofrestriad eu priodas a godwyd allan o lyfr cofrestriad priodasau yn eglwys y plwyf:
"No. 57.
62.

"John Thomas of this Parish, a Bachelor, and Jane Theodore of this Parish, a Spinster, were married in this Church by Licence, this Tenth Day of February, in the Year One Thousand Seven Hundred and Sixty Seven, by me, E HUMPHREYS, Rector.


"This marriage was solemnized
between us
JOHN THOMAS
Ye mark of
JANE X THEODORE
"In the presence
of
Ye mark of
DAVID O EVAN,
EVAN GOUGH."