Cyfrifid John Thomas yn un o'r tyddynwyr mwyaf parchus yn y plwyf. Yr oedd yn ŵr pwyllog a synwyrol, ac yn wladwr da; yn medru darllen ac ysgrifenu—yr hyn nid oedd yn beth cyffredin iawn yn y dyddiau hyny. Yr oedd hefyd yn dra hoff o farddoniaeth, ac yn feddiannol ar ryw gymmaint o athrylith farddonol ei hunan. Y mae ŵyres iddo, Mrs. Williams, Cwm Bargod, ger Merthyr Tydfil, merch i'r diweddar Edward Thomas, yn adrodd am dano fel hyn:—" Gofynais unwaith i'm tad, 'A oedd fy nhaid yn feddiannol ar awen farddonol, gan fod ei ferch Ann mor gyflawn o honi? Attebodd yntau, y byddai fy nhaid yn arfer rhigymu ychydig weithiau, a rhoddodd i mi yr enghreifftiau canlynol. Un tro pan yn yfed tê, a'r gwpan heb fod yn gwbl wrth ei fodd, dywedodd wrth fy nain:—
'Rhowch gwpan gyfan i'r gŵr:—yn f' einioes
Ni fynaf ddim dwndwr;
Bara ar hyn i'r henwr—
Mae'r tê yn deneu fel dwr,'
"Dro arall, pan yr oedd y tegell yn berwi i'r tân, dywedodd:—
'Rhedwch, prysurwch, da Siân!—mewn dychryn
Mae 'n dechreu d'od allan;
Y dwr crychias o'r crochan,
A barotow'd, sy 'n berwi i'r tân.'
"Dro arall, pan yn teimlo braidd yn swrth, gofynai ar ddull englyn, am binsiad o snisin, neu drewlwch, fel hyn:—
'Rhoddwch lwch o'r blwch rhag blys-'r y'ch agos
A'i agor ef eisys;
Trowch allan, trwy'ch ewyllys,
Ryw rodd dlawd rhwng bawd a bys.'
"Fel yna," medd ei orŵyr,[1] yr hwn a ysgrifenodd
- ↑ Mr. John Thomas, myfyriwr yn ngholeg Caerfyrddin ac yn ymbarotoi i'r weinidogaeth gyda'r Annibynwyr. Wedi ysgrifenu hyn, gwelsom hanes ei neillduad yn fugail ar yr eglwysi Annibynol yn Pisgah, Llandysilio, a Bethania, Penfro. Llwyddiant iddo i wneuthur llawer o ddaioni.