Tudalen:Cofiant Ann Griffiths gynt o Dolwar Fechan.pdf/24

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

amrywiol fân gofion am y teulu dros ei fodryb, "y byddai tad Ann Griffiths yn arfer difyru ei deulu." Mae yn ymddangos ei fod ef yn ŵr hynaws, yn meddu ar gryn lawer o'r hyn a elwir yn gyffredin yn "natur dda," ac felly yn siriol a serchog gyda'i dylwyth. Cynnyrch awen barod yw yr englynion uchod, ac y maent yn cynnwys cryn dipyn o ryw bertrwydd diniwed, heb lawer o ddiffygion yn y gynghanedd, ac ystyried nad oedd manylrwydd yn cael amcanu ato. Nid ydys yn gwybod iddo ef erioed ymgais am ddim uwch mewn prydyddiaeth na rhyw ddifyrwch siriol o'r fath yma. Mae prydyddiaeth Gymreig wedi bod yn un o brif gampau ein cenedl o'r oesoedd cyntaf; ac felly yn unol â chynnefod eu gwlad, byddai hen drigolion Llanfihangel yn ymddifyru llawer mewn gwneyd ac adrodd englynion, cywyddau, ac awdlau, a chanu cerddi a charolau. Harri ap Harri, o Graig y Gath, oedd eu hathraw prydyddol yn yr oes dan sylw; a mynych y byddai efe, ei ddysgyblon, a'i gydnabyddiaeth, yn anerch eu gilydd ar gynghanedd ddifyfyr. Yr ydym yn gweled fod John Thomas yn meddu medrusrwydd yn hyn; ac y mae yn gasgliad digon naturiol fod y duedd at brydyddiaeth oedd yn y tad wedi dylanwadu i feithrin yr un duedd yn ei ferch dalentog Ann; yr hon, mewn amser, a gyssegrodd hi i'r dyben mwyaf goruchel a gogoneddus.

Ni a chwanegwn yma hanesyn a adroddwyd gan hynafwraig sydd etto yn fyw, yr hon a fagwyd yn ymyl Dolwar, ac a fu yn cyd-chwareu âg Ann pan oeddynt yn blant. Swm yr hyn y mae hi yn ei gofio sydd fel y canlyn:-"Yr oedd rhyw ddyn o ymyl Melindwr (yn agos i Ddolwar), yn ceisio adeiladu caban iddo ei hun; ond o herwydd ei dlodi, yr