Tudalen:Cofiant Ann Griffiths gynt o Dolwar Fechan.pdf/25

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd yn methu yn lân a'i orphen. Wrth weled Ifan (canys dyna oedd ei enw) yn methu cael ei dŷ i fyny, dywedai John Thomas:

'Ai diofal gweled Ifan—yna c'yd
Yn codi ei gaban?
Mae rhai yn gommedd yr hen gwman,
A'r gair yn wir fod y gŵr yn wan.'

'Fy nhad,' ebe Ann, yr hon, yn ol tystiolaeth yr hen wraig, ydoedd y pryd hyny o ddeg i ddeuddeng mlwydd oed :

'Os gwan ac egwan yw'r gŵr—heb feddu
Fawr foddion o gryfdwr,
Gwnewch adeilad sad yn siwr,
I dda deulu—rho'wch Dduw yn dalwr!'

"Y canlyniad fu, i John Thomas, ar ei draul ei hun, gynnorthwyo Ifan i godi ei gaban; ac am a wyddys, y mae yn sefyll hyd y dydd hwn yn rhywle yn nghymmydogaeth Melindwr."

Nis gallwn sicrhau cywirdeb yr hanesyn hwn yn mhellach na'i fod wedi cael ei adrodd i ni fel gwirionedd; ond nid oes dim yn ymddangos yn anhygoel ynddo, oddi eithr rhagaddfedrwydd yr enethig, neu ynte ei bod hi rywfaint yn hŷn nag a ddywedwyd; ac y mae yn cyd-daraw yn gysson ag arferiad John Thomas yn ei deulu, ac yn dangos mor gariadus oedd y tad a'i ferch fechan yn eu cymmydogaeth; fel nad oes achos, dybygem, am un esgusawd am roddi lle iddo yma.

O ran ei grefydd, Eglwyswr manwl oedd John Thomas; ac yn y grefydd hono yr oedd efe yn dwyn i fyny ei deulu. Yr oedd yn fwy crefyddol na'r cyffredin o'i gymmydogion; a dywedir y byddai yn cadw addoliad teuluaidd yn gysson, hwyr a bore, trwy ddarllen rhanau o Lyfr y Weddi Gyffredin, ac fe allai ryw ffurf-weddïau ereill; yr hyn oedd yn dda, mor bell ag yr oedd yn myned: ond