Tudalen:Cofiant Ann Griffiths gynt o Dolwar Fechan.pdf/26

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nid ymddengys ei fod ef etto yn meddu syniadau eglur am ffordd iachawdwriaeth. Nid oedd y weinidogaeth yn eglwys y plwyf, mwy nag yn y rhan fwyaf o eglwysydd ein gwlad y pryd hwnw, yn tueddu i oleuo, dychwelyd, ac arwain pechaduriaid "at Fugail ac Esgob eu heneidiau;" ond yn y gwrthwyneb, i'w suo i gysgadrwydd a difaterwch ynghylch eu cyflwr ysbrydol, ac i fyned yn mlaen yn dawel, yn ol helynt y byd hwn, mewn anystyriaeth ac anfoesoldeb, neu ynte i ymfoddloni ar y cyflawniad allanol o ddefodau crefydd, tra yn parhau yn ddieithr i rym duwioldeb. Y cyfryw ydoedd ymlyniad y teulu hwn wrth "eu heglwys," fel yr oeddynt yn dra phell oddi wrth feddwl am fyned i wrandaw ar neb o'r Ymneillduwyr na'r Methodistiaid chwaith yn pregethu. Cyrchu i eglwys y plwyf i'r gwasanaeth boreuol ar y Sabbathau oedd arferiad gyffredin y wlad y pryd hwnw,[1] ac yna dilyn y ddawns, y chwareuaeth, y digrifwch, a'r cynnulliadau ofer am y gweddill o'r dydd; oddi eithr y byddai ychydig o'r rhai agosaf i'r llan yn myned i'r gwasanaeth prydnawnol, neu y gosper. Felly yr oeddynt hwythau, i raddau helaeth, yn cydymffurfio âg arferion eu gwlad a'u hoes. Yr oeddynt, fel y soniwyd, yn gariadus yn eu cymmydogaeth, a byddai eu tŷ yn rhydd i'w cymmydogion i ymgynnull i gynnal cyfarfodydd chwareu, a nosweithiau llawen, fel eu gelwid, lle y byddai canu gyda'r tannau, a

  1. Yr oedd yn Nolwar hen gi hynod iawn. Byddai yn myned i'r eglwys yn gysson bob Sul Pa un bynag a äi y teulu ai peidio, äi yr hen gi yno, a gorweddai yn llonydd dan y faingc lle yr arferai Siôn Ifan Thomas eistedd, nes darfod y gwasanaeth; yna dychwelai adref.Byddai son mawr yn yr ardal am hen gi llwyd Dolwar Fechan; ac fe allai i'r hen gi barhau yn hwy nar teulu yn ei ymlyniad wrth eglwys y plwyf. Pa fodd bynag, yr oedd yr hyn a ddysgasai y creadur direswm trwy arferiad, nes ei myned yn reddf iddo, yn brawf o gyssondeb y penteulu am faith amser yn cyrchu i'r gwasanaeth plwyfol ar y Sabbathau.