Tudalen:Cofiant Ann Griffiths gynt o Dolwar Fechan.pdf/27

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dawnsio, a chwareu cardiau a disiau—arferion â'u tuedd i gadw pob ystyriaeth a difrifwch crefyddol yn ddigon pell, ond yn annigonol i roddi gwir fwynhâd i berchen enaid anfarwol, rhwymedig i roddi cyfrif i Dduw am ei holl weithredoedd.

Yn yr agwedd hon, yr oedd teulu Dolwar pan y dechreuodd Duw, yn ei ras, weithredu yn achubol ar feddyliau rhai o honynt. Dywedir mai fel hyn y dechreuodd y gwaith da yn eu mysg:—Daethai Saesones i fyw i'r ardal i gadw ysgol. Cymro ydoedd ei gŵr; ond tebygol ei fod wedi marw y pryd hwnw. Yr oedd iddynt fab, o'r enw Samuel Owen. Preswyliodd yn y Wig, yn mhlwyf Llangynyw, ger llaw Pont Robert. Yr oedd efe yn llangc crefyddol, mewn undeb â'r Methodistiaid, ac o duedd ddarllengar. Yr oedd arno awydd pregethu; ond rywfodd ni chafodd dderbyniad i hyny gyda'r Methodistiaid. Tua diwedd ei oes, bu yn pregethu am ysbaid byr gyda'r Methodistiaid Cyntefig, neu y Ranters. Yr oedd Samuel, ar yr adeg y cyfeirir ati, yn adeiladu caban (bwthyn, neu dy bychan) ar ochr Halfen―lle rhwng Dolwar a'r Bont; a daeth John, mab hynaf John Thomas, o Ddolwar, i gydnabyddiaeth âg ef, a thyfodd cyfeillgarwch rhyngddynt. Byddai John yn ymweled â Samuel yn ei gaban yn fynych i gydymddiddan, ac i gael addysg mewn pethau crefyddol. Rhoddodd Samuel fenthyg y llyfr gwerthfawr hwnw o waith Baxter, a elwir Tragwyddol Orphwysfa y Saint,[1] i John; yr hwn a gafodd flas arno, ac a arferai ei ddarllen i gwpl o hen bobl yn y gymmydogaeth oedd heb fedru ar lyfr eu hunain, ond yn awyddus i wrandaw; a

  1. Yn ol adroddiad arall, y traethawd rhagorol a elwir Y Wisg Wen Ddysglaer, gan y Parchedig Timothy Thomas, oedd y llyfr. Dichon iddo gael benthyg y ddau, gan fod ei gyfaill S. O. yn meddu amryw lyfrau. Yr oedd y llyfr hwn, modd bynag, yn adnabyddus yn y teulu ar ol hyn.