Tudalen:Cofiant Ann Griffiths gynt o Dolwar Fechan.pdf/28

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dywedir fod yr hen wraig er's ysbaid yn gystuddiol. Felly, wrth weinyddu cysur yn y modd hwn i deulu tlawd y derbyniodd John ei argraffiadau crefyddol cyntaf, ac yr ymaflodd yn ei feddwl ddwys ystyriaeth o'r angen oedd arno am wir grefydd. Yn ei bryder a'i drallod, penderfynodd, er mwyn cael tawelwch i'w fynwes, gyrchu yn fwy cysson i eglwys y plwyf. Aeth hefyd at barson y plwyf, ac adroddodd iddo helynt ei feddwl, gan obeithio cael cymmhorth a chyfarwyddyd gan ei gynghorwr ysbrydol yn yr amgylchiad trallodus yr oedd ynddo. Ymddygodd y gŵr parchedig yn serchog a boneddigaidd tuag ato; ond gan ei fod ef ei hun yn ddieithr i deimladau o'r fath, nis medrai roddi un cynghor addas i bechadur dan argyhoeddiad. Cyfarwyddyd y person, druan, oedd iddo ymofyn am ddigon o ddifyrwch, i ymlid ymaith y meddyliau pruddaidd a thrymion oeddynt yn ei flino. Cynghor tra siomedig oedd hwn; ond gwyddai y gŵr ieuangc yn dda nad oedd dim mewn difyrwch cnawdol a allai feddyginiaethu ei ysbryd cystuddiedig ef. Yn ganlynol i hyn, meddyliodd am geisio tawelu ei gydwybod trwy weithredoedd da ac elusenau ; ac i'r dyben hwn, gwerthodd y pâr dillad goreu oedd ganddo i'w frawd, a rhanodd yr arian rhwng y tlodion. Yr oedd ganddo ychydig ddefaid ar y mynydd; a gwerthodd y rhai hyny hefyd, a gwnaeth yr un modd â'u gwerth. Fel hyn, a thrwy wisgo yn dlodaidd a diaddurn, yr oedd efe yn amcanu marweiddio llygredd ei galon, a darostwng balchder ei ysbryd, ac ennill cymmeradwyaeth y nefoedd; ond yn lle hyny, yr oedd ei feddwl yn myned yn fwy anesmwyth a thrallodus yn feunyddiol, ac yntau yn myned yn destyn sylw a siarad cyffredin yr ardal, a rhai yn ofni y buasai yn dyrysu yn ei synwyrau. Wedi methu cael ymwared yn y llan, a thrwy y parson, ac mewn diwygiad allanol ac elusenau, ymroddodd o'r diwedd i fyned i