Tudalen:Cofiant Ann Griffiths gynt o Dolwar Fechan.pdf/29

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wrandaw pregethwyr y Methodistiaid, oeddynt yn dyfod y pryd hwnw i le a elwir Penllys, yn yr un plwyf; ac yno, er ei annhraethol gysur, y cafodd yr ymgeledd yr oedd ei enaid yn teimlo ei angen, ac yn dyfal chwilio am dano. Arweiniwyd ef i adnabyddiaeth o drefn rasol yr efengyl i gadw pechaduriaid, "sef fod Duw yn Nghrist yn cymmodi y byd âg ef ei hun, heb gyfrif iddynt eu pechodau, a bod "gwaed Iesu Grist ei Fab ef yn glanhau oddi wrth bob pechod." Mewn canlyniad, cynnygiodd ei hun yn fuan fel ymgeisydd am aelodaeth yn eglwys fechan y Methodistiaid oedd yn ymgynnull y pryd hwnw yn amaethdy Penllys, a chafodd dderbyniad serchog gan y cyfeillion, a gwnaeth ei gartref crefyddol yn eu plith.

Dywedir am John Thomas, ieuangaf, ei fod yn ddyn o dymmer ddistaw, ddwys, a serchog, ac yn dra syml a difrif yn ei agwedd grefyddol. Yr oedd y teulu, am ysbaid cyntaf ei broffes, yn parhau i edrych ar grefydd Ymneillduol gyda chryn lawer o ddirmyg er hyny, ni ddangosasant gasineb chwerw tuag ato, gan eu bod yn deulu tra serchog tuag at eu gilydd. Ond yr oeddynt yn ei gymmeryd yn ysgafn, ac yn gwneyd cryn lawer o wawd o'i grefydd ef; ac yr oedd ei chwaer, Ann, y pryd hwnw yn llawn cyn waethed yn hyn a neb o honynt. Yr oedd hon yn brofedigaeth lem i ŵr ieuangc tyner ei feddwl; ac nid peth bychan oedd cymmeryd i fyny a glynu wrth broffes o grefydd yn ei amgylchiad ef. Y mae gwatwaredd weithiau yn un o'r pethau anhawddaf i'w ddioddef; ac nis gallasai camdriniaeth greulawn, trwy gael ei luchio a'i faeddu gan estroniaid gelyniaethus, archolli ei deimladau ef agos mor ddwfn a chael ei wawdio a'i ddiystyru gan y rhai agosaf ato, ac anwylaf ganddo. Er y cwbl, yr oedd ei sobrwydd syml ef yn ennill parch yn raddol yn eu meddyliau tuag ato, nes peri cryn gyfnewidiad o dipyn i beth yn eu hymddygiadau. Yn ei bryder