Tudalen:Cofiant Ann Griffiths gynt o Dolwar Fechan.pdf/30

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ynghylch ei gyflwr ei hun, ac yn achos ei berthynasau, byddai yn gweddïo llawer yn y dirgel, ac yn ymprydio yn fynych: ac ar un tro nodedig, wedi ymneillduo i daflod wair, yr oedd yn ymdrechu mewn gweddi, pan y daeth y geiriau canlynol i'w feddwl gyda goleuni a nerth mawr:-"Er bod dy ddechreuad yn fychan, etto dy ddiwedd a gynnydda yn ddirfawr" Iob viii. 7. Teimlodd gysur yn ei ysbryd ar y pryd, a chafodd yn fuan weled eu cyflawniad-pan y daeth ei dad, ei frawd, a dwy o'i chwiorydd at grefydd. Yn mhen ychydig flynyddoedd wedi iddo ymuno â'r eglwys yn Mhenllys, dewiswyd ef yn ddiacon; yr hon swydd a wasanaethodd yn ddyladwy a ffyddlawn yno, ac wedi symmudiad yr achos o Benllys i Bont Robert.[1]

  1. "O Benllys y symmudwyd yr achos i Bont Robert, yr hyn a fu yn raddol yn y blynyddoedd 1795 a 1796." Daeth yr Annibynwyr i Benllys yn ganlynol i hyn,; ac y mae ganddynt gapel ac achos bychan yno hyd heddyw. Gelwir ardal y Bont ar yr enw hwn, oddi wrth un Robert ab Oliver, o Gynhinfa; yr hwn a adeiladodd bont goed ar yr afon, er's tua 20 mlynedd yn ol, ac y mae wedi cadw yr enw ar ol gwneyd y bont faen bresennol. Mae pentref prydferth y Bont yn sefyll ar lanerch o'r neilldu, ar y terfyn rhwng plwyfydd Meifod a Llanfihangel; ac y mae y Methodistiaid wedi adeiladu capel newydd yno mewn man mwy cyfleus na'r hen gapel, ar dir a roddwyd iddynt gan Mr. Rogers, Dolobran.