Tudalen:Cofiant Ann Griffiths gynt o Dolwar Fechan.pdf/31

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd ei afael daerddwys am gyhoeddiadau pregethwyr i'r Bont a Dolwar yn mron yn anorchfygol. Bu pregethu yn eu tŷ annedd, sef Dolwar Fechan, am o gylch naw mlynedd, a hyny gyda llawer o lewyrch, y rhan amlaf. Os deuai pregethwr dieithr yno unwaith, byddai yn sier o ddyfod yno drachefn, pan y deuai i'r cyfleusdra. "Odfeuon iawn," medd Ann Davies, Dolanog, "oedd rhai Dolwar! Byddai pobl o Lanwyddyn, ac o bellder mawr yn dyfod yno. Byddai y pregethu yn y gegin, a chedwid y gyfeillach eglwysig yn y siambr. Byddwn i yn

fer gosod ystenaid o ddwfr, neu laeth, ar y bwrdd wrth ddrws y siambr, i'r bobl ddieithr gael yfed o hono wrth ymadael." Ond dywedir na bu y weinidogaeth yno yn foddion dychweliad i nemawr ond y teulu; o leiaf, nid oes hanes fod un teulu arall yn y gymmydogaeth, y pryd hwnw, wedi eu hennill at grefydd. Etto, gellid meddwl ddarfod i'r efengyl gael rhyw radd o ddylanwad ar yr ardal, gan fod yn awr, er's llawer o flynyddoedd, dri o gapeli gan y Methodistiaid, heb law y rhai sydd gan enwadau ereill, rhwng Pont Robert a Llanwyddyn, sef Dolanog, Cyffin, a Chowni, a phregethu cysson yn mhob un o honynt. Bu farw John Thomas, ieuangaf, mewn tangnefedd yn mis Ionawr, 1808, yn ddibriod, ac ynghylch 38 mlwydd oed.

EI BUCHEDD A'I CHREFYDD.

WEDI dangos uchod y modd y dechreuodd crefydd yn y teulu, symmudir yn mlaen yn awr at wrthddrych neillduol y cofiant hwn-Ann Thomas, wrth ei henw morwynol, wedi hyny Ann Griffiths, yn ol enw ei phriod. Ganwyd hi yn Nolwar Fechan, yn y flwyddyn 1776. Bedyddiwyd hi yn eglwys Llanfihangel, ar yr 2lain o Ebrill yn y flwyddyn hono.[1] Cafodd ei dwyn i fyny, fel y plant ereill, mewn arferion o ddiwydrwydd a gweithgarwch. Cafodd

  1. Dyma gopi o gofrestriad ei bedydd, a godwyd o gofrestr bedyddiadau yn eglwys Llanfihangel:—
    "1775-6.
    April 21st, Ann, Daughter of John Thomas, by Jane his Wife, Baptized."