Tudalen:Cofiant Ann Griffiths gynt o Dolwar Fechan.pdf/32

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

beth ysgol yn ei hieuengetid i ddysgu darllen Saesneg, ysgrifenu, ac ychydig rifyddiaeth, yr hyn oedd eithaf cylch dysgeidiaeth y bobl gyffredin yn yr oes hono, ac yn mhell ar ol hyny. Nid oedd ei gwybodaeth o'r iaith Saesneg ond ammherffaith; etto, fe dybir y medrai siarad ychydig o Saesneg cyffredin y cyffiniau, a gwneyd rhigymau digrif yn yr iaith hono, yn yr hyn yr ymddifyrai yn fynych pan ydoedd yn eneth chwareus. Dywedir hefyd y gallai, wedi tyfu i fyny, ysgrifenu llythyr mewn Saesneg gweddol dda, ac ystyried ei hanfanteision. Ond nid oes un llythyr o'r fath o'i heiddo yn awr ar gael. Lled wanaidd ei hiechyd oedd hi er yn blentyn, fel y byddai mewn gwaeledd yn fynych, a dywedir iddi fod yn dioddef am ysbaid dan y cryd cymmalau dair gwaith yn ystod ei hoes; er hyny, lled wyllt ac ysgafn ydoedd hi yn ei hieuengetid-braidd yn blaenori ar enethod y gymmydogaeth yn ei hoffder o ddifyrwch a chwareuaeth. Dywed un o'i hen gydnabyddiaeth, yr hon sydd etto yn fyw :-" Yr oedd Ann Thomas yn rhemp am y nosweithiau chwareu; un dôst oedd hi am ddawnsio." Yr oedd hi yn naturiol o dymmer fywiog; yr ydoedd hefyd yn ddawnus, ond arferai ei dawn yn aml i siarad yn drahaus am grefydd, ac am Ymneillduwyr a Methodistiaid. Un tro, wrth sylwi ar bobl yn myned i gymdeithasfa y Bala, dywedai yn wawdus:

"Dacw'r pererinion yn myned i Mecca:" mewn cyfeiriad at bererindodau y Mahometiaid i ymweled â phrif gyssegrfa y gau brophwyd. Er fod hyn yn tarddu o ragfarn at bobl grefyddol, y mae yn dangos ei bod yn yr oedran hwnw yn arfer darllen, ac yn perchen ar feddwl, ond ei fod etto heb ei ddarostwng i'r efengyl. Nid pob un a allasai ddefnyddio y wawdiaith hon. Pa fodd bynag, nid hir y cafodd ei gadael yn y sefyllfa yma o ran ei hysbryd a'i hymddygiadau. Cafodd achlysur, ryw dro, i fyned i Lanfyllin naill ai i ŵylmabsant, neu i ryw gyn-