Tudalen:Cofiant Ann Griffiths gynt o Dolwar Fechan.pdf/33

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nulliad gwag arall: nid oes sicrwydd pa amser ar y flwyddyn ydoedd, ond tueddir ni i feddwl ei fod yn ddiweddarach nag adeg y gŵylmabsant, oedd yn digwydd ar y Sul cyntaf ar ol yr 28ain o Mehefin. Ei hamcan penaf yn y daith hon oedd mwynhau ei hoff ddifyrwch o ddawnsio ; ond peth arall oedd yn ngolwg y Goruchaf tuag ati, sef dechreu ymweled â hi yn ol ei arfaeth ei hun a'i ras, mewn trefn i'w dwyn i fwynhâd o ddifyrwch o natur annhraethol uwch, a mwy sylweddol a pharhaus, na'r oferedd gwag yr oedd hi yn cyrchu ato. Gallasai yr hwn a'i gwnaeth ddywedyd yn briodol iawn yn ei hamgylchiad hi yn neillduol, fel am y Cenhedloedd yn gyf yffredinol :-"Cafwyd fi gan y rhai nid oeddynt yn fy ngheisio, a gwnaed fi yn eglur i'r rhai nid oeddynt yn ymofyn am danaf." Hawdd y gallem ddarlunio yn ein dychymyg ansawdd ei meddwl dros rai dyddiau, fe allai, o flaen y cynnulliad oferwag, mewn ymbarotoad, ac mewn disgwyliad am lonaid ei dymuniadau, dybygasai hi, o ddigrifwch a phleser. Dacw hi: pan ddaeth y diwrnod, wedi cael caniatâd ei rhieni, yn ei glân drwsiad, yn eneth fywiog, ysgafndroed, yn hwylio i gychwyn tua'r dref, a chanddi o saith i wyth milldir o ffordd i fyned yno. Tybiwn nas gadawai ei serchog dad i'w eneth hawddgar a hoff gerdded yr holl ffordd hono *ar ei thraed, ond iddo roddi y ferlen oreu yn ei feddiant i'w chario y waith hon. Mae y boreu yn deg, yr awel yn hyfryd, natur yn gwenu, yr adar yn pyngcio yn y llwyni, a'r ferlen gron, fywiog, yn teithio yn heinif, megys yn ymwybodol fod ganddi drysor ar ei chefn, nad oedd y byd etto yn gwybod ei werth. Y mae ein barddes ieuange yn teimlo prydferthwch anian a hyfrydwch y golygfeydd, ond nid oedd y tân nefol etto wedi ei gynneu o fewn ei mynwes i wneyd y defnydd priodol o honynt. Mae y difyrwch gwageddol wedi hudo ei meddwl o'r ffordd, a disgwyliadau ofer wedi codi yn uchel.