Tudalen:Cofiant Ann Griffiths gynt o Dolwar Fechan.pdf/34

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dyma hi wedi pasio amryw o'i chyfoedion a'i chyfeillesau sydd yn cyrchu tua'r un lle, a dyna sain peroriaeth y clychau bob yn dipyn yn taraw ar ei chlustiau, digon tebyg yn mhyngciau rhyw hen erddygan Gymreig adnabyddus iddi, nes ydoedd ei chalon yn dychlamu o'i mewn, a hithau yn myned yn mlaen gyflymach, gyflymach. O'r diwedd y mae hi wedi cyrhaedd yr hen dref yn nyffryn prydferth ac wedi rhoddi ei merlen yn ofalus yn ystabl y gwestty arferedig gan y teulu ar y ffeiriau a'r marchnadoedd; ond cyn iddi gael hamdden i edrych o'i hamgylch am y difyrwch, wele y cyfnod pwysig ar gymmeryd lle, oedd i effeithio ar gyflwr ysbrydol a chymmeriad Ann Thomas, nid yn unig am ei hoes, ond i dragwyddoldeb diderfyn. Ar yr heol, cyfarfu â merch a fuasai ryw amser yn ol yn gwasanaethu yn y teulu, yr hon, y mae yn debyg, oedd erbyn hyn wedi dechreu cael blas ar wrandaw yr efengyl. Yr oedd eu cyfarfyddiad yn annisgwyliadwy, a llawen iawn oeddynt o weled eu gilydd; a'i hen forwyn, yn ei charedigrwydd, a'i cymmhellodd i fyned gyda hi i gapel yr Annibynwyr, yn Mhen y Dref, i wrandaw gŵr dieithr o gryn enwogrwydd oedd i fod yno yn pregethu y prydnawn hwnw. Hi a gydsyniodd yn rhwydd, yn ei sirioldeb arferol, dybygem, heb feddwl yn amgen na byddai iddi gael cryn lawer o ddigrifwch trwy glywed un o'r "pengryniaid" yn llefaru; a chan nas clywsai hi yr un o honynt erioed etto, yr oedd ei chwilfrydedd wedi ei ddeffro, fel nad oedd yn anhawdd ganddi fyned. Y pregethwr oedd y Parchedig Benjamin Jones, y pryd hwnw gweinidog yr Annibynwyr yn nghapel Penlan, Pwllheli-gŵr da, a phregethwr rhagorol.[1]

  1. Cyhoeddodd y Parchedig Benjamin Jones bregethau ar Athrawiaeth y Drindod, yn y flwyddyn 1793, a thraethawd dan yr enw Ffynnonau Iachawdwriaeth, neu Amddiffyniad o Athrawiaeth Gras, yn 1805. Hysbysa yn rhagymadrodd traethawd olaf a enwyd, ei fod yn bwriadu cyhoeddi pregethau ar ddammegion Y Deng Morwyn, a'r Gweision a'r Talentau; ond nis gwyddom a gyflawnodd efe hyny. Yr oedd efe yn dduwinydd da, ac yn bregethwr defnyddiol a chymmeradwy. Y mae y ddau draethawd a nodwyd yn werth eu darllen; a gresyn na byddai i ryw un cymmhwys gymmeryd mewn llaw eu hail gyhoeddi gyda chofiant yr awdwr, mewn gwell diwyg na'r argraphiadau cyntaf o honynt.