Tudalen:Cofiant Ann Griffiths gynt o Dolwar Fechan.pdf/35

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cafodd ei agwedd syml a difrifol, a'i sylwadau synwyrol a chymmhwysiadol, argraph dda ar feddwl y ferch ieuangc, nes ei rhwymo i wrandaw yn astud; ac effeithiodd y bregeth arni yn ddwys ac argyhoeddiadol, fel y penderfynodd ar unwaith adael ei ffyrdd pechadurus o wagedd ac ynfydrwydd, ac ymroddi i fywyd crefyddol. Yn awr, dyma ddiflasdod bythol wedi ei daflu ar y gyfeillach wâg, y delyn a'r ddawns; a thybiwn ei gweled, gyda chalon friw a chydwybod effro, mor fuan ag y gallodd ar ol y bregeth, gyda gweddeidd-dra, yn ymbarotoi i gychwyn tuag adref. Dilynwn hi o'i lled-ol yn ein dychymyg:—Y mae hi yn myned yn araf, yn unig, wrthi ei hun, wedi gadael pleserau a chyfeillion gwammal i gyd o'i hol; y mae anian yn gwenu fel o'r blaen, a'r golygfeydd o'i hamgylch yn hyfryd; ond y mae hi wedi ei llawn feddiannu gan bwys a difrifoldeb ei mater tragwyddol, â'i dagrau yn treiglo dros ei gruddiau, ac mewn pryder, yn llefain ynddi ei hun: Pa beth a wnaf fel y byddwyf gadwedig?" Pan nad oedd hi yn canfod ond dwysder a difrifwch o'i hamgylch ar y ddaear, diau fod gorfoledd o'i phlegid yn y nef; canys "y mae llawenydd yn ngŵydd angylion Duw am un pechadura edifarhao." Cyrhaeddodd adref, ond odid, yn gynnarach na'r dysgwyliad; ac y mae ei thad yn cael ei anwyl ferch mewn teimladau tra gwahanol i'r hyn ydoedd yn y boreu; ond ni a dybiwn ei bod yn ceisio eu celu, rhag peri gofid i'r hwn a garai ac a barchai mor fawr. Er hyny, gwir yw—

"Ni chêl grudd gystudd galon."