Tudalen:Cofiant Ann Griffiths gynt o Dolwar Fechan.pdf/36

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Felly yn ei hamgylchiad hithau, nis gallai y rhai oedd o'i hamgylch lai na sylwi fod cyfnewidiad mawr wedi cymmeryd lle yn ei hymddygiadau, er nad oedd etto wedi dadguddio ond ychydig o'r hyn oedd yn myned yn mlaen yn ei meddyliau. Yr oedd hi, dybygid, yn tueddu yn fwy at neillduedd, gan y ceid hi yn fynych ar ei phen ei hun mewn dagrau ac ocheneidiau.

Yn gyffelyb i lawer ereill, syrthiodd hithau, fel ei brawd, i lwybr deddfoldeb, gan feddwl tawelu ei chydwybod derfysglyd trwy gyrchu yn fwy dyfal i eglwys y plwyf ar y Sabbathau, a hefyd drwy ddiwygiad buchedd. Ymddengys ei bod, am ryw gymmaint o amser, yn yr agwedd hon o ran ei hysbryd; o blegid y dydd Nadolig canlynol, dywedir iddi gyfodi yn foreu i fyned i eglwys Llanfihangel i'r gwasanaeth a elwir y Plygain, a gedwid gynt y dydd hwnw ar y cyfddydd yn mhob eglwys blwyfol; pryd y byddai, heb law y gwasanaeth boreuol gosodedig, ganu carolau neu ganiadau ar enedigaeth y Gwaredwr, fel y mae yn arferedig mewn rhai manau etto. Dywedir fod Ann y tro hwn yn myned ei hunan dan wylo drwy y tywyllwch, ar hyd llwybrau anwastad a geirwon, tra yr oedd ei brodyr ar yr un pryd wedi myned i gyfarfod crefyddol i Bont Robert. Colli cwmni ei brodyr, a theimlad o eiddigedd o herwydd eu bod yn myned i foddion crefyddol y Methodistiaid, ynghyd â thywyllwch a gerwinder y ffordd oedd yn peri iddi wylo felly. Yr oedd ei hen deimlad o ragfarn etto heb ei ddarostwng! Erbyn iddi gyrhaedd y llan, nid oedd yno neb wedi codi, ond oll yn eu hymddygiad yn gwirio yr hen ddiareb:

"Po nesaf at yr eglwys,
Pellaf oddi wrth baradwys."

Felly gorfu iddi aros dros ryw hyd yn y tywyllwch a'r oerfel, yn disgwyl i'r eglwys gael ei hagor a'i goleuo, ac i'r gwasanaeth ddechreu. Pa fodd y