Tudalen:Cofiant Ann Griffiths gynt o Dolwar Fechan.pdf/37

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

teimlodd yn amser y gwasanaeth a'r canu nis gwyddys; ond wedi i hyny fyned drosodd, ar ei dyfodiad o'r eglwys, nesaodd y parson i'w chyfarch yn bur garedig a siriol. Ymaflodd yn ei llaw, a dywedodd, "Ann: a ydyw gwythïenau gwagedd wedi ymadael yn llwyr o'ch dwylaw ?" a gwahoddodd hi i'w dŷ i gael ymborth. Mae yn ymddangos ei bod hi a'i theulu yn barchus yn ngolwg y parson, ac fe allai ei fod wedi deall fod rhai o honynt yn gogwyddo at Fethodistiaeth, a'i fod yn ammheu rhywbeth am dani hithau; ac felly, er mwyn rhagflaenu ei henciliad, ei fod yn amcanu defnyddio y cyfleusdra i geisio ymlid ymaith bob ystyriaethau difrifol yn ddigon pell o'i meddwl, o blegid dywedir fod ei ymddiddanion â hi yn ei dŷ, nid yn unig yn anghrefyddol, ond yn rhy anweddaidd i'w hadrodd. Nis gallasai y ferch ieuangc graff, lednais ei theimlad, lai na chywilyddio a galaru wrth ymddygiad anaddas un ar enw gweinidog yr efengyl, un yn dal swyddogaeth y dysgasid hi yn ddiammheu o'i mebyd i edrych i fyny arni yn mron gyda pharch coelgrefyddol.* Bu hyn yn foddion i lacio, os nad

[1]

  1. Yr oedd parch ofergoelus i'r parsoniaid, ynghyd â rhagfarn at yr Ymneillduwyr a'r Methodistiaid (er nad oedd y rhai olaf hyn etto yn proffesu eu bod yn ymneillduo oddi wrth yr Eglwys Wladol), yn cael ei ddysgu yn dra gofalus yn y dyddiau hyny. Byddai y prydyddion yn fynych yn cael eu cynnhyrfu i wawdio pobl grefyddol mewn cerddi ac englynion. Yr oedd hen brydydd diniwed "Craig y Gath," y crybwyllwyd am dano eisoes, yn Eglwyswr uchel; ac yn ei henaint wrth "glera ar hyd y wlad i gael ei damaid a'i lymaid am englyn," arferai rybuddio ei gymmwynaswyr rhag encilio i dir Ymneillduaeth, ac adroddai yn fynych yr englyn hwn o'i waith ei hun:—

    "Harri ap Harri, modd pêr—ni wrendy
    Ar Rowndiad na Chwacer,
    Dynion sydd o dan y ser
    Yn peidio d'weyd eu pader."

    Roundhead, a feddylir wrth Roundiad—pengrwn: llys enw o waradwydd a roddwyd ar bobl grefyddol o ddeutu amser y rhyfel gwladol: fe allai am fod pleidwyr y senedd yn tori eu gwallt yn fyr, &c. Gwel Geiriadur Duwinyddol Buck; dg. Roundheads=Pengryniaid.
    Ac i daraw yr hoel adref (yn ei feddwl ef), dywedai mewn dull tra defodol: "Os mynwch chwi fyned i wrandaw y Pengryniaid, ewch i gapel y Presbyteriaid yn Llanfyllin; os mynwch chwi wrandaw y Cwaceriaid, ewch i gapel Dolobran; ond os mynwch chwi wrandaw gweinidog Duw, deuwch i eglwys y plwyf." Gwel chwaneg o gofion am yr hen brydydd hwn yn Y Gwyliedydd am 1833, td. 153 a 154; Y Gwladgarwr am 1836, td. 13; a 1840, td. 365.
    Mae hen gapel y Crynwyr a enwyd uchod yn sefyll yn mhen uchaf plwyf Meifod, o fewn tua milldir i Bont Robert. Cafodd ei adeiladu yn amser Charles II., gan ŵr boneddig oedd yn byw yn mhlas Dolobran y pryd hwnw, yr hwn, ynghyd âg amryw o'i berthynasau a'i gymmydogion, oedd wedi derbyn egwyddorion y bobl hyny. Gwel Y Gwyliedydd am 1837, td. 211.