Tudalen:Cofiant Ann Griffiths gynt o Dolwar Fechan.pdf/38

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i lwyr ddattod ei hymlyniad tỳn wrth yr Eglwys Sefydledig, o leiaf yn ymarferol. Daeth yn fuan i'r un penderfyniad a'r duwiol Esgob Beveridge yn ei Feddyliau Neillduol ar Grefydd, lle, wedi cymmeryd golwg ar amryw fathau o grefyddau, heb gael ynddynt foddlonrwydd i'w feddwl, y mae yn dywedyd:—"Mae yn rhaid i mi fyned oddi yma, ac ymofyn am ryw grefydd arall i sefydlu fy enaid arni."[1] Yn ei phryder a'i hawyddfryd am fanteision crefyddol gwell a helaethach nag oedd i'w cael yn eglwys y plwyf, yr oedd ei meddwl yn gogwyddo yn naturiol at yr Annibynwyr, gan ei bod eisoes wedi cael prawf o duedd ddaionus y weinidogaeth yn eu mysg hwy; a chyda bwriad i ymuno â'r enwad hwnw, gofynodd ganiatâd ei thad i fyned i Lanfyllin i ddysgu gwnïo, ac yr oedd yntau wedi cydsynio â'i chais, a rhyw barotoadau wedi cael eu rhoddi ar droed tuag at rwyddhau y ffordd iddi gael myned, er nad oedd hi, mae yn debyg, wedi amlygu i'w thad yr hyn oedd ganddi yn benaf mewn golwg yn hyny. Ond cyn i'r bwriad hwn gael ei roddi

  1. Gwel td. 28, argraphiad T. Williams, Dolgellau.