Tudalen:Cofiant Ann Griffiths gynt o Dolwar Fechan.pdf/39

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mewn gweithrediad, aeth i Bont Robert i wrandaw pregeth; tybir mai yr hybarch Ishmael Jones, gynt o Landinam, oedd y pregethwr. Effeithiodd y bregeth hono yn ddwys iawn ar ei meddwl, nid yn unig i symmud ei rhagfarn at y Methodistiaid, ond hefyd i ddyfnhau pryder ei hysbryd yn mherthynas i'w chyflwr tragwyddol. Profodd y pryd hwnw argyhoeddiadau grymus o'i phechadurusrwydd a'i cholledigaeth wrth natur, yr hyn a barhaodd am ysbaid o amser, cyn iddi allu mwynhau cysuron yr efengyl a heddwch cydwybod. Yr oedd yn parhau i fyned i'r Bont i wrandaw pregethau, ac ymddengys fod y weinidogaeth yno yn ddeffrous a thanllyd iawn yn y dyddiau hyny. Dywedir y byddai awdurdod ac ysbrydolrwydd deddf Duw yn ymaflyd mor rymus yn ei chydwybod, nes y byddai yn fynych yn ymdreiglo ar hyd y ffordd wrth ddychwelyd adref o'r oedfeuon gan ddychrynfeydd a thrallod meddwl. Amlwg yw fod awch y gwirionedd yn llym ar ei llygredd, ac ar wreiddiau ei hunangyfiawnder, ac ar yr un pryd yn cyfeirio ei henaid at unig Waredwr pechaduriaid; yr hyn, dybygid, oedd yn ei dal i lynu wrth foddion gras, ac yn ei chynnal rhag suddo i anobaith.

Dan y teimladau hyn, rhoddodd heibio y bwriad o fyned i Lanfyllin, a phenderfynodd wneyd ei chartref gyda'r Methodistiaid. Cynnygiodd ei hun yn fuan am aelodaeth yn eu mysg yn eglwys Pont Robert, lle y cafodd dderbyniad rhwydd, a llawer o ymgeledd i'w hysbryd trallodedig. Tybir i hyn gymmeryd lle rywbryd yn y flwyddyn 1797. Dywedir fod agwedd hynod o ddeffrous arni ar ei hymddangosiad cyntaf yn y gymdeithas eglwysig. Yr oedd diwygiad grymus wedi dechreu yn Mhont Robert er's tua dwy flynedd, ac heb oeri nemawr hyd y pryd hwnw. Pa hyd y bu hi dan yr argyhoeddiadau llymion crybwylledig cyn profi y tangnefedd sydd trwy gredu, nid oes modd gwybod yn