Tudalen:Cofiant Ann Griffiths gynt o Dolwar Fechan.pdf/40

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

awr; ond y mae yn dra thebygol na bu yn hir nes iddi gael y fath amlygiadau ysbrydol o ogoniant person Crist, a gwerth ei aberth, grym ei eiriolaeth, anchwiliadwy olud ei ras, a chyflawnder yr iachawdwriaeth gogyfer âg angen y penaf o bechaduriaid, nes llenwi ei henaid â diddanwch yr Ysbryd Glân ac â llawenydd annhraethadwy a gogoneddus. Hyn a fwynhaodd yn helaeth o hyny allan, nes y byddai ar brydiau yn tori allan mewn gorfoledd cyhoeddus dros ysbaid ei hoes grefyddol.

Byddai agwedd doddedig iawn arni yn gwrandaw yr efengyl. Adroddai un hen frawd ei fod ef unwaith yn Llanfyllin yn gwrandaw gŵr dieithr yn pregethu ar foreu Sabbath. Cynnelid yr oedfa yn nhŷ gwraig weddw; chwaer, fel y tybir, i William Jones, o Laethbwlch, un o bregethwyr boreuaf y Methodistiaid yn yr amgylchoedd hyny. Yr oedd Ann Thomas o Ddolwar yn y cyfarfod, ac ymddangosai yn teimlo yn ddwys wrth wrandaw. Dywedai ein hysbysydd ei fod ef yn rhyfeddu yn fawr wrth weled merch ieuangc brydweddol, mewn gwisgiad da, yn y fath agwedd ddifrifol, â'i dagrau yn rhedeg dros ei gruddiau wrth wrandaw y bregeth. Nid oedd efe etto wedi teimlo dim yn neillduol oddi wrth y gwirionedd; ond cafodd ei hymddygiad syml gryn effaith arno er ei ddwyn i ystyried ei ffyrdd, a dychwelyd at yr Arglwydd; ac nid hir y bu efe heb ymuno â'r Methodistiaid. Digwyddodd hyn yn mhell cyn bod ganddynt un capel yn Llanfyllin.[1]

Ni chyfarfu hi â rhwystrau oddi wrth y teulu ar ffordd ei phroffes grefyddol. Yr oedd crefydd erbyn hyn wedi cymmeryd meddiant o'r tŷ:—ei brawd hynaf yn swyddog eglwysig, a rhai ereill o'i pherthynasau wedi ymuno â'r eglwys eisoes, a daeth ei thad hefyd at grefydd yn agos yr un amser. Yr oedd hyn yn gysur mawr iddi hi, ac iddynt hwythau. Gallwn edrych arnynt bellach fel teulu yn

  1. Adeiladwyd hen gapel y Methodistiaid yno yn 1809.