Tudalen:Cofiant Ann Griffiths gynt o Dolwar Fechan.pdf/41

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

grefyddol, yn mwynhau eu gilydd yn yr Arglwydd, ac arch Duw, fel yn nhŷ Obed-Edom, wedi gwneyd ei chartref dan eu cronglwyd, a bendith y nef yn ei dilyn.

Ymddengys ei bod o ddechreuad ei phroffes wedi llwyr ymroddi i ddilyn Crist, a byw yn dduwiol. Teimlai hefyd agosrwydd mawr at yr eglwys y daethai yn aelod o honi. Y merched mwyaf syml a duwiolfrydig a berthynent i eglwys Pont Robert oedd ei phrif gyfeillesau; er nad oedd rhai o honynt ond tlodion o ran eu hamgylchiadau bydol, etto teimlai yn hyfryd yn eu cymdeithas. Arferai rhai o honynt fyned i'w hebrwng ran o'r ffordd adref o'r moddion crefyddol yn y Bont, ac nid ymadawent â'u gilydd heb i un neu ddwy, neu ragor, fyned i weddi; a mynych iawn y torai yn orfoledd cryf arnynt, nes y byddai y cymau yn adseinio gan rymusder eu pêrganiadau. Un tro, aeth tair o honynt ar eu gliniau i weddio cyn cyrhaedd lled cae oddi wrth y capel, er bod yr eira at eu migyrnau;[1] a chyn terfynu, aethant i ganu a gorfoleddu hyd onid oedd eu swn yn adseinio dros y gymmydogaeth; a chofus genym, medd ei bywgraffydd, John Hughes, glywed Ann yn dywedyd na byddai anwyd arnynt hyd yn oed yn yr eira, ond cael digon o gynnhesrwydd ysbrydol oddi mewn. Dro arall, bu eu cyfarfod ymadawol ar lan afon,[2] gyferbyn i lyn dwfn,

  1. Fferau: Act. iii. 7.
  2. Yr afon sydd yn rhedeg o Lanwyddyn heibio Dolanog a Phont Robert; un o'r ddwy ffrwd sydd yn ymuno ger llaw Meifod i ffurfio y Fyrnwy; h.y., y Faranwy-oddi wrth y lliaws eogiaid (salmons) a ddelir ynddi. Yr un pysgodyn yw y maran a'r eog. Y ffrwd arall a elwir Banw, yr hon sydd yn rhedeg o blwyf Garthbeibio heibio i Lanerfyl a Llanfair Caereinion. Mae y Fyrnwy, wedi derbyn y Tanad, ger llaw Aber Tanad, yn ymarllwys i'r Hafren wrth y Cymmerau, ar gyffiniau swydd Amwythig. Mae y dwfr o bob parth o swydd Drefaldwyn, ond Cantref, neu randir Cyfeiliog, ar yr afon Dyfi, yn rhedeg i'r Hafren. Gwel Y Gwyliedydd am 1837, td. 52.