Tudalen:Cofiant Ann Griffiths gynt o Dolwar Fechan.pdf/42

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pryd y canasant y geiriau canlynol gyda hwyl nefolaidd:

"Ni bydd diwedd byth ar rinwedd
   Sylwedd mawr Bethesda lyn."

Un o honynt, yr hon oedd heb golli ei hun mor lwyr a'r lleill, a ofnai mai i'r llyn y disgynent; ond nid felly y bu. Dro arall, ar noswaith led dywyll, fel yr oeddynt yn cerdded yn mlaen dan ganu a moliannu, collasant y ffordd, ac aethant i ryw fan anwastad a chlapiog, hyd onid oeddynt yn syrthio ar hyd y llawr; ac er hyny, yn dal i ganu, hyd yn oed pan y byddent ar lawr. Dro arall, yn amser y diwygiad, pan oedd Ann a'i chyfeillesau yn cadw cyfarfod gweddi mewn hen gloddfa geryg, ar ol bod mewn oedfa yn y Bont; a phan oeddynt ar ymadael i ddychwelyd i'w cartrefi, ac mewn hwyl nefolaidd yn canu ac yn moliannu Duw, daeth rhyw langciau gwammal ac anystyriol atynt, mewn bwriad i'w gwawdio a'u dyrysu. Un o'r merched, oedd yn meddiannu ei hun yn well na'r lleill, a'u clywai yn siarad â'u gilydd fel yr oeddynt yn nesau atynt, ac un yn gofyn i'r llall:—" Yn mha un yr ymafli di?" a hwnw yn atteb, "Yn y benaf yr ymaflaf fi:—" hono ydoedd Ann Thomas. Ond wedi ei ddyfod yn ddigon agos, estynodd Ann ei llaw iddo, gan adrodd y geiriau hyn:—"Gwna yn llawen, ŵr ieuangc, yn dy ieuengctid, a llawenyched dy galon yn nyddiau dy ieuengetid, a rhodia yn ffyrdd dy galon, ac yn ngolwg dy lygaid: ond gwybydd y geilw Duw di i'r farn am hyn oll;" Preg. xi. 9. Adroddodd y geiriau hyn drosodd a throsodd amryw weithiau, gyda nerth a goleuni mawr, nes oedd y llangc yn delwi ac yn wylo. "Och !" eb efe, "y mae yn rhy boeth i ni yma!" a chiliodd yn ol. Ymaflodd un arall o'r merched yn llaw y llangc arall, gan adrodd y geiriau hyny:—"Pa fodd y diangwu ni, os esgeuluswn iachawdwriaeth gymmaint?" gan eu hadrodd amryw weithiau gyda chyffelyb nerth a