Ni achosodd ac ni achosa anedifeirwch neb, gelyniaeth neb at Dduw, annghrediniaeth neb yn Nghrist, dygiad neb i gyflwr colledig, na thragwyddol gosbedigaeth neb—hi a ylch ei dwylaw yn lân oddiwrth waed pawb oll.
2. Ei bod wedi ac yn achosi daioni annhraethadwy. Etholedigaeth ydyw yr achos o ddygiad tyrfa ddirif o bechaduriaid i gredu yn Nghrist, i afael bywyd, ac i holl ddedwyddwch y nef.
3. Nas gwnaeth ac nas gwna yr Etholedigaeth Arminaidd ac ammodol, a wrthwynebir genym, un daioni cadwedigol i neb. Ni ddygodd ac ni ddyga hon neb i gredu yn Nghrist, i edifeirwch am bechod, i gymmod â Duw, i ymadael â'i bechod, i ffordd santeiddrwydd, i gyflwr o ddiogelwch rhag damnedigaeth, na neb at Dduw i ddedwyddwch y nef. Wedi yr estyna foddion achub i ddynion, yn ddiammod, gad rhwng pawb â hwy, ac ni estyna un llaw o gymhorth i un pechadur tlawd i gydio gafael yn nhrefn achub er dyfod i afael bywyd, os na chreda, o hono ei hun, yn gyntaf! Etto dadlenir drosti gan lawer fel pe byddai bywyd tragwyddol yr holl fyd yn troi arni!!
4. Y mae y gyfryw Etholedigaeth yn dra niweidiol a phechadurus. 1. Y mae ei chredu yn dangos anwybodaeth. Pe byddai i ddynion ddim ond darllen, gwrando, a myfyrio yn ddiduedd, gyda gweddi ddyfal at Dduw am gymhorth i iawnfarnu yn y mater, gallent weled yn eglur, feddyliem ni, fod yr Etholedigaeth hon yn anysgrythyrol. 2. Y mae y grediniaeth o honi yn tueddu i achlesu balchder dyn. Nid yn ei osod ar dir cyfrifoldeb, ond yn ei godi i fyny i dir duwioldeb a rhinwedd, o hono ei hun; a thrwy hyny yn siomi enaid gwerthfawr. 3. Y mae yn taro yn erbyn athrawiaeth gras. Os yw Etholedigaeth yn sylfaenedig ar dduwioldeb a rhinwedd dyn yn credu, edifarhau, &c., y mae gwaith mewnol Ysbryd yr Arglwydd yn hollol afreidiol. Gan fod dyn yn dechreu byw yn dduwiol o hono ei hun, diau y gall barhau felly hefyd, a bod yn ddedwydd. Y mae y gorchestgamp mwyaf wedi ei gyflawni. 4. Y mae yn taro yn erbyn caniadau y nef i raddau