Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/102

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

helaeth iawn. Molianu Duw y maent yno am ei gariad tragwyddol, am anfon ei Fab i fod yn Iawn am bechod, rhoddi breintiau yr efengyl yn eu dwylaw, a thueddu eu calonau i wneyd derbyniad o honi, heb son dim am eu rhagoroldeb eu hunain ar eraill nas derbyniasant hi.

5. Fod yr Etholedigaeth a wrthwynebwn yn rhwym o syrthio i hollol ddiddymdra. Yn ol hon byddai Duw yn dywedyd fel y canlyn:—Yr wyf yn bwriadu achub pawb a gredant o honynt eu hunain; ond os na chredant felly, nid wyf yn bwriadu eu hachub y mae bodolaeth fy mwriad yn syrthio i ddihanfodiad; a chan na chredai neb fel hyn, ni byddai ganddo un bwriad i achub neb. Y mae hyn megys pe dywedai un wrth dad naturiol, a fyddai dan lywodraeth cariad at ei blentyn. anwylaf, prif hyfrydwch ei fynwes, Os bydd i ti ladd dy blentyn erbyn y pryd hyn yfory, mi a'th godaf yn foneddwr mwyaf o fewn y deyrnas. A fyddai efe yn debygol o wneuthur, ac yntau dan lywodraeth cariad at ei blentyn? Na, gwrthodai y cynygiad gyda'r diystyrwch mwyaf. "Cariad sydd gryf fel angeu.—Dyfroedd lawer ni allant ddiffoddi cariad, ac afonydd nis boddant: pe rhoddai wr holl gyfoeth ei dŷ am gariad, gan ddirmygu y dirmygid hyny," Can. viii. 6, 7. Felly yr un modd ni wna yr hwn sydd yn byw dan lywodraeth cariad at ei bechod ei groeshoelio er pob anogaethau a roddir iddo i wneuthur.

6. Mai ffoledd mawr ydyw gwrthwynebu yr Etholedigaeth a bleidiwn, o herwydd ei bod yn gwneyd mwy er achub rhai nag eraill. Oni wnaeth Duw lawer mwy mewn Etholedigaeth i freintiau i rai nag eraill? Rhoddwyd mwy i'r Iuddewon na'r Cenhedloedd am filoedd o flynyddoedd; ac oni wna efe fwy o lawer yn awr i rai Cenhedloedd nag eraill? Y mae y rhan fwyaf o'r byd etto heb efengyl. Nid yw etholiad i freintiau a manteision achub yn gorwedd fawr os dim gwell ar y mater hwn nag Etholedigaeth i fywyd. Nid yr un faint o iechyd, cyfleusderau, a breintiau crefyddol a roddir gan Dduw i'r naill a'r llall; etto nid oes achos gan neb i feio arno am hyn: nid oes rwymau arno i roddi dim i neb, ac nid yw yn gwneyd cam