anfantais yn y drefn hon. Ond i'r gwrthwyneb, fod y drefn, nid yn unig yn llawn cystal, ond yn fwy manteisiol i bawb, na phe buasem yn cael ein gosod i sefyll bawb drosto ei hun, fel yr ydym yn dyfod i'r byd. Gwelir hyn wrth ystyried—
1. Y mae y drefn yn ymddangos yn fwy manteisiol i Adda gyda golwg arno ei hun yn bersonol, nag hebddi; o herwydd fod cadw y gorchymyn a roddwyd iddo yn rhoddi hawl mewn bywyd ysbrydol, naturiol, a thragwyddol, pryd nad ydoedd ganddo un hawl bersonol yn flaenorol i'r drefn hon. Diau fod rhwymau arno garu Duw â'i holl galon, yn ol rheswm a natur pethau, fel y daeth o law ei Greawdwr; ond pe buasai yn byw bywyd o berffaith gariad at ei Greawdwra byw felly dros fil o flynyddoedd, nis gallasai drwy hyny hawlio dim o law ei Grewr; a gallasai Duw, heb wneyd un annghyfiawnder ag ef, ei ddifodi drachefn. Ond cynnwysai y cyfammod, neu y drefn hon, ras mawr, nid yn unig parhad o'r hyn ydoedd ganddo, ond yn ol pob tebygolrwydd, llawer iawn yn ychwaneg.
2. Yr ydoedd y drefn hon mor, ac yn fwy manteisiol i'w hiliogaeth, na phe buasai pob un yn cael ei osod i sefyll ei brawf drosto ei hun; oblegid yr oedd ganddo alluoedd naturiol mor rymus ag a ddymunasai neb o honom ninnau fod genym; ac yr oedd hefyd yn berffaith santaidd, heb un tuedd i'r gwrthwyneb ynddo. Ac heblaw hyny, yr ydoedd yn meddiannu ar berffaith ddynoliaeth mewn cyflawn faintioli a nerth, gorff ac enaid; ac newydd dderbyn y gyfraith o enau Duw ei hun pan ddechreuodd ei brawf;—a diau ei fod yn meddu perffaith ystyriaeth o'i rwymedigaethau i'w Dad nefol; ac yn mhob modd gymaint, a mwy o annogaethau i gadw ei le nag a allasai fod genym ni, wrth sefyll drosom ein hunain yn unig; o herwydd fod dedwyddwch ei hiliogaeth ar un llaw, a'u hannedwyddwch ar y llaw arall, yn annogaethau ychwanegol i ufudd—dod iddo, at ei ddedwyddwch a'i annedwyddwch ei hun yn bersonol; yr hyn nas gallasent fod yn annogaethau i ni, a golygu ein bod yn sefyll ond drosom ein hunain yn unig.