Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/112

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ef. Nac ofna, cred yn unig. Canys felly y carodd Duw y byd, fel y rhoddodd efe ei unig—anedig Fab, fel na choller pwy bynag a gredo ynddo ef, ond caffael o hono fywyd tragwyddol." Ni raid i neb ofni fod arfaeth yn erbyn iddo gredu, neu fod Iawn Crist yn rhy fach iddo gredu ynddo, neu fod Ysbryd Duw am ei gadw yn ol o gredu, neu yn anewyllysgar i'w gynnorthwyo yn y gwaith.

Gyda golwg ar yr hyn a ddywedir gan rai, Fod Iawn Crist yn ddigonol dros y rhai a gollir, pe buasai wedi ei drefnu iddynt a throstynt, dywed Mr. Jones fel y canlyn:—" Onid yr un peth yw hyn a dywedyd ei fod yn ddigonol pe buasai yn ddigonol? Llais a rhediad yr ysgrythyr ydyw, 'Y mae pob peth yn barod, deuwch i'r briodas.' Nid y mae pob peth yn barod, pe buasai pob peth wedi ei drefnu, &c., nage, nid fel hyn y llefara y dwyfol wirionedd; ond golyga hwn fod Crist wedi ei drefnu a'i osod i fod yn ddigonol Geidwad i'r holl fyd, ac ar y digonolrwydd hwn y mae galwad gyffredinol yr efengyl yn sylfaenedig; 'Deuwch i'r briodas,' &c. Nid ar yr hyn nid yw (ddigon pe buasai) ond ar yr hyn sydd, y mae galwadau'ı nef ar bechaduriaid i ddyfod at Grist wedi eu sylfaenu."

Dywed Mr. Jones, yn mhellach, "Gesyd y Beibl allan fod cyfammod (neu drefn) Duw yn dal perthynas â phawb. Nid fel rhai heb un berthynas rhyngddynt â'r drefn mwy na chythreuliaid yr ymddygir tuag atynt ddydd a ddaw. Nid felly yr ymddygir tuag atynt yn awr. Onid trwy y cyfammod, neu y drefn hon, y mae holl weinyddiadau daionus a grasol Duw yn cael eu gweini tuag atynt yn y fuchedd hon? Trefnwyd lawn a marwolaeth Crist i fod yn gyfrwng holl weinyddiadau daionus Duw tuag at y byd; a gwadu hyn ydyw esbonio ymaith yr angenrheidrwydd o Iawn er achubiaeth yr eglwys. Os gellir yn gyson â chyfiawnder, ac ag anrhydedd llywodraeth Iehofa, weinyddu un drugaredd tuag at fyd colledig, [heb Iawn] ar yr un sylfaen y gellir achub i fywyd tragwyddol."

Ond tra y daliai ef, yn y modd mwyaf diysgog, anfeidrol helaethrwydd yr Iawn, a bod galwad yr efengyl ar bob dyn