Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/114

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ol:—1. Nad yw y gair yn ddigonol ynddo ei hun i roddi anian santaidd i neb. 2. Mai yr Ysbryd Glân yw y Gweithydd. 3. Fod yr Ysbryd Glân yn gweithredu ar galon y pechadur. Gan hyny, yr unig beth y maent yn gwahaniaethu yn ei gylch yn y pwngc hwn ydyw, A ydyw yr Ysbryd Glân yn gwneyd defnydd o'r gair fel offeryn, trwy ba un y cyfrenir y dduwiol anian, neu nad ydyw.—Pan y dywedir ei fod, onid yw y fath ymadrodd yn rhoddi ar ddeall fod gan yr Ysbryd Glân ryw weithrediad ar y gair yn gystal ac ar y galon; oblegid os na olygir hyny, pa ddyben yw son am y gair fel offeryn neu foddion, pa un sydd ynddo ei hyn yn annigonol i ateb y dyben dan sylw? Ac os golygir rhyw weithrediad ar y gair, pan y tybir ei fod yn offerynol i aileni, dymunem yn fawr gael gwybod, pa beth y mae y gweithrediad hwn yn ei wneuthur ar y gair? Oni raid ei fod yn fath o gyfnewidiad arno, megys gordd yn cael ymaflyd ynddi i daro y graig, neu gleddyf yn cael ei finio i drywanu, neu y cyffelyb? Ond, medd yr Arglwydd, 'Ni newidiaf yr hyn a ddaeth allan o'm genau.' Onid mwy priodol, gan hyny, ydyw cyduno â'r awdwyr sydd yn dywedyd, mai yn ddigyfrwng y mae Duw yn planu y dduwiol anian yn yr enaid? Gellid meddwl fod y rhai hyn ar dir cadarn ac eglur, a bod yr ysgrythyrau canlynol, 1 Pedr i. 23; Iago i. 18; 1 Cor. iv. 15; Philemon x., a'u cyffelyb, yn cael eu deall yn fwyaf cywir ganddynt hwy. Mae yr awdwyr eraill yn golygu fod yr adnodau hyn yn gosod allan y modd y mae yr anian newydd yn cael ei phlanu yn yr enaid: ond y rhai hyn yn golygu mai cyfeirio y maent at y modd y mae yr anian newydd yn amlygu ei hun yn ngweithrediadau priodol yr enaid tuag at wahanol wrthddrychau, megys caru, credu, &c. Mae hyny yn cymeryd lle trwy fod y gair yn datguddio gwahanol wrthddrychau i'r enaid; ac oni ellir barnu fod gwaith yr anian santaidd yn ei hamlygu ei hun fel hyn, yn cael ei alw aileni, cenhedlu, ennill, &c., a bod y gwaith hwn o aileni, cenhedlu, ennill, &c. weithiau yn cael ei briodoli i Dduw, ac weithiau i ei weision, yn gymaint a bod llaw gan y naill a'r llall yn mhregethiad y gair. Priodol, debygid, ydyw