ystyried fod yn rhaid i'r enaid gael ei fywhau cyn y byddo i'r gair gael un effaith gadwedigol arno. Gwel Act. xvi. 14. Nid oes neb mor ynfyd mewn pethau naturiol a meddwl mai trwy roddi had yn y ddaear y mae hi yn cael ei haddasu i ddwyn ffrwyth! Neu fod yr Arglwydd, trwy dywyniad yr haul yn trosglwyddo llygaid i ddynion! Onid yr un mor afresymol ac anysgrythyrol ydyw dywedyd, mae trwy y gair y mae y dduwiol anian yn cael ei rhoddi yn yr enaid?"
Ymddengys yn eglur y medrai ysgrifenydd y paragraph uchod "lefaru yn groyw," fel Aaron. Nid oes ynddo ddim osgoi, darnguddio, a dywedyd y pethau tebycafi foddio dynion difeddwl. Dylanwad dwyfol gwirioneddol ac uniongyrchol ar y galon sydd gan yr Hybarch C. Jones yn cael ei ddal allan, fel oedd gan Lewis, Phillips, Edwards, Williams, Fuller, Wardlaw, a Payne. Teg hefyd yw nodi, fod Charles, ac enwogion eraill a gydolygent âg ef, mai trwy y gair y mae yr Ysbryd Glân yn aileni pechaduriaid, yn dal gwir ddylanwad dwyfol; ond eu bod yn golygu mai trwy y gair y mae y gwir ddylanwad hwnw yn cyrhaedd y galon. Buasent yn dychrynu rhag y dyb, nad oes unrhyw ddylanwad yn cael ei ddefnyddio yn nychweliad a santeiddiad dynion, ond dylanwad moesol y moddion a arferir tuag atynt; ac felly nid oedd y gwahaniaeth rhyngddynt hwy a'r rhai a farnent mai dylanwad digyfrwng o eiddo yr Ysbryd Glân sydd yn cyfnewid y galon, ddim o gymaint pwys, ond yn unig fel pwnge o gysondeb, ac o gywirdeb, wrth geisio egluro Philosophyddiaeth y gwaith a wneir ar eneidiau y rhai a ddychwelir. Gallai y naill blaid fel y llall weddio yn ddihoced am ddylanwad yr Ysbryd Glân. Ond ni ellir dywedyd felly am y golygiad sydd yn gosod allan mai trwy ddylanwad moesol y moddion yn unig y cyfnewidir calonau pechaduriaid, heb ddim oddiwrth yr Arglwydd, nac yn uniongyrchol, na thrwy y moddion, yn y mater o gwbl; dim ond dynion a'r moddion wyneb yn wyneb, a'r rhai sydd yn credu yn gwneyd hyny o honynt eu hunain, heb un gwir reswm am y gwahaniaeth sydd rhyngddynt hwy ag eraill a wrthodant ddychwelyd at yr Arglwydd. Priodolai hen