gael ei gweinyddu; dadleuodd gryn dipyn ar y materion hyn; ond nid oedd dim culni yn ei feddwl ef tuag at y rhai na fynant fedyddio neb ond plant proffeswyr crefydd, a chredinwyr; na thuag at y rhai a gredant na ddylid bedyddio neb ond credinwyr, a'r rhai hyny yn unig trwy drochiad.
Wedi gosod golygiadau Mr. Jones ar rai o brif byngciau crefydd ger bron y darllenwyr, a hyny, gan mwyaf, yn ei eiriau ef ei hun, terfynir y bennod hon gydag ychydig o sylwadau, nid ar ei Dduwinyddiaeth, ond arno ef ei hunan fel Duwinydd.
1. Yr oedd yn ymhyfrydu yn ddirfawr mewn Duwinyddiaeth. Yn y maes toreithog hwnw y carai lafurio. Yno yr oedd gartref. Yr oedd awydd am ddeall cysondeb y dwyfol wirionedd yn llosgi yn ei fynwes hyd ddiwedd ei oes. Gwelsom lawer henafgwr fel un wedi blino yn myfyrio, yn chwilio, ac yn ysgrifenu ei feddyliau, cyn cyraedd yn agos i bedwar ugain oed; ond nid felly yr oedd ef. Parhaodd y tân o wir awydd i gynyddu mewn gwybodaeth Dduwinyddol i gyneu yn ei enaid ef nes ydoedd yn bedair a phedwar ugain oed, a throsodd, heb oeri dim, na gwanhau o ran ei nerth. Yr oedd awyddfryd dyddiau ei ieuengetyd ynddo yn henafgwr. Yr ydoedd yn wro wybodaeth gyffredinol, yn enwedig yn y pethau oeddynt yn angenrheidiol iddo eu gwybod fel dyn, gwladwr, a gweinidog yr efengyl yn mysg ei gydaelodau eglwysig; ond, yn ddiau, mewn Duwinyddiaeth y rhagorai.
2. Cafodd hyd i ben y ffordd i astudio yr ysgrythyrau pan oedd yn ieuangc, ac nid ymadawodd a hi pan heneiddiodd. Holl ymdrech ambell bregethwr ydyw parotoi pregethau. Dyna a wna ar hyd ei oes; a bydd dyn felly mewn hen ddyddiau heb ddeall na'r ddeddf na'r efengyl, ond odid. Astudio egwyddorion, elfenau cyntaf gwir wybodaeth, yn drwyadl, a wnaeth Mr. Jones; ac wedi hyny yr oedd adeiladu arnynt yn orchwyl esmwyth iddo, mewn cydmariaeth.
3. Yr oedd ef, hefyd, yn feddianol ar y cymhwysderau naturiol a moesol sydd yn anhebgorol angenrheidiol i wneyd Duwinydd da. Yr oedd ei ddeall yn gryf a threiddlym, ei gof yn gynnwysfawr, a'i amynedd mawr yn ei alluogi i sefyll