Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/118

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

uwchben anhawsderau nes eu gorchfygu. Ac heblaw y pethau yna, yr oedd ei barch i'r gwirionedd, a'r farn uchel oedd ganddo am ei werth a'i bwysigrwydd, yn gynnorthwyol iawn iddo i gael gafael arno. Gwyddai yn dda am ei ddylanwad iachusol ar ei galon a'i fuchedd ei hun yn bersonol, a gwelodd, yn ei oes faith, ei effeithiau daionus ar eraill, a bod cyfeiliorni o ffordd y gwirionedd yn arwain dynion i bob rhyw ormod rhysedd, ac yn distrywio eu defnyddioldeb yn llwyr.

4. Yr oedd yn rhydd iawn oddiwrth bob mympwy yn ei ymchwiliadau am y gwirionedd. Yr oedd penchwibandod yn hollol ddyeithr iddo ef. Nid oedd un awydd ynddo am wneyd ei hun yn hynod, trwy osod allan ryw olygiadau synfawr ar byngciau crefydd, i dynu sylw y byd ato ef ei hun. Gwr dysyml, gostyngedig, a hunanymwadol ydoedd. Dysgybl i Grist a fu ef ar hyd ei oes. "Beth a ddywed yr ysgrythyr?" oedd y cwestiwn y ceisiai gael atebiad iddo ar bob pwnge bob amser.

5. Yr oedd yn dra annibynol ar ddynion yn ffurfiad ei olygiadau. Er cymaint oedd ei barch i'r Doctor Lewis, gwahaniaethai oddiwrtho ar amryw o bethau pwysig. Ni allai weled fod Doctor Williams yn gywir yn mhob peth. Teimlai ef ei gyfrifoldeb personol i Ben yr eglwys am ei olygiadau, yn gystal ag am ei ymarweddiad, a chwiliai a barnai drosto ei hunan, ac anogai bawb eraill i wneyd yn yr un modd. Yr oedd yn awyddus am wybod y modd y syniai gwahanol ysgrifenwyr am wirioneddau y Beibl, yn Buritaniaid ac Annghydffurfwyr, yn Arminiaid a Chalfiniaid, yn Esgobaethwyr a Phresbyteriaid, yn Brydeinwyr, Americaniaid, ac Almaenwyr; ond ni bu yn gaeth ddilynwr i neb, ac ni alwai neb ar y ddaear yn dad.

6. Peth arall tra nodedig yn Mr. Jones fel Duwinydd, oedd ei fanylrwydd. Ni ymfoddlonai, fel y gwna rhai, ar gymeryd termai Duwinyddol i mewn i'w gyfundraeth heb drafferthu yn nghylch eu hystyron. Mynai ddeall yn drwyadl beth a olygir pan arferir geiriau fel etholedigaeth, cyfammod, cynnrychiolaeth, cyfrifiad troseddiad, dylanwad dwyfol, adened-