COFIANT.
PENNOD I.
Ei Fro Enedigol—Ei Rieni—Helyntion boreuol—Pennantlliw—Arferion yr Ardal—Abraham Tibbot—Dr. Lewis—Ei Ddychweliad at Grefydd— Dechreuad yr Achos yn Llanuwchllyn—Lewis Rees—Gweinidogaeth y Dr. Lewis—Pugh, o'r Brithdir; Williams, wedi hyny o'r Wern; Jones, Trawsfynydd; Robert Roberts, Tyddynfelin, ac eraill—Ei godiad i bregethu gan y Dr. Lewis a'r Eglwys yn Llanuwchllyn—Llanuwchllyn yn Fagwrfa Pregethwyr—Ei fynediad i'r Athrofa—Ei Gydfyfyrwyr—Marwolaeth y Parch. H. Pugh o'r Brithdir—Ei Alwad fel olynydd Mr. Pugh—Ei Urddiad, &c.
BRODOR o Benllyn, yn Meirionydd, oedd yr Hybarch Cadwaladr Jones. Ei rieni oeddynt John a Dorothy Cadwaladr, o'r Deildref Uchaf, Pennantlliw Bach, Llanuwchllyn. Tyddyn prydferth ar lan y Lliw yw y Deildref Uchaf, a lle digon cysurus i deulu bychan i fyw arno. Mae yno amrywiaeth o fryndir, rhosdir, a doldir; ac addurnir y cyfan gan y gwahanol fathau o goed a dyfant yn y gymmydogaeth. Saif y tyddyndŷ mewn llanerch ddymunol, a rhed ffrwd gref o "ddwfr glan gloyw" heibio iddo, i'r brif afon. Gyferbyn, ar yr ochr arall i'r cwm, y mae llechweddau heirddion Pennantlliw Fawr. I'r gorllewin, y mae mynyddoedd uchel, a chreigiau danneddog; ac yn eu mysg, Carn Dochan. Ar ben y garn hon y mae hen gastell, yr hwn a fu, oesoedd maith yn ol, yn breswylfod, ac yn amddiffynfa gadarn i ryw deuluoedd o fri, a gyfaneddent ynddo; dylanwad y rhai oedd y pryd hwnw, yn ddiau, yn cael ei deimlo yn yr ardal: ond aethant oll i "dir anghof," ac nid oes yn aros, er ys canrifoedd bellach, ond adfeilion eu cartrefle diogel gynt.