Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/120

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dyna rai o ddelwau meddwl yr hybarch Cadwaladr Jones fel Duwinydd; a rhai enghreifftiau teg o'i olygiadau ar yr athrawiaeth sydd yn ol duwioldeb.

Os nad oedd yn feddianol ar gyflymdra meddyliol Mr. Williams, o'r Wern, i ganfod a golwg eryraidd, megys ar unwaith, gysondeb neu annghysondeb gwahanol olygiadau a gair Duw, ac a gwir athroniaeth Cristionogaeth; os nad oedd ynddo, yn wastadol, y llawnder oedd yn ei gyfaill Mr. Morgan; os nad oedd ei rym a'i dân meddyliol yn gyfartal i'r eiddo Mr. Jones, Llanuwchllyn, neu Mr. Breese, o Liverpool; gallwn ddywedyd, yn ddibetrus, ei fod, pan gaffai hamdden i fanwl astudio unrhyw bwnge, yn llawn mor sicr o gyrhaedd cysondeb âg ef ei hun, ac â'r ysgrythyrau, ag yr un o'r enwogion uchod. Credu yr ydym mai mewn ymresymiaeth deg a manwl, gyda chyfeillion, yn ei gongl gartref; neu, pan wesgid yn drwm arno gan wrthddadleuwyr ystrywgar, mewn unrhyw amgylchiad, y deuai ef allan ynei nertha'i loewder. Magodd y cynnulleidfaoedd oeddynt dan ei ofal yn debyg iawn, o ran eu hoffder o Dduwinyddiaeth, iddo ef ei hunan; a phan fu farw, collodd yr Annibynwyr yn Nghymru un o'r Duwinyddion goreu yn eu plith.

PENNOD X.

EI NEILLDUOLION FEL GWEINIDOG A BUGAIL.

Ei Lyfrgell-Ei bregethau, a'i ddull yn eu traddodi-Yn gweinyddu wrth fwrdd Cymundeb-Yn cadw cyfeillachau eglwysig, ac yn trin dysgyblaeth-Ei ofalon am bobl ieuaingc-Ei gymmeriad fel ymresymydd-Ei ddull serchog o ymgyfarch-Ei ffyddlondeb i'w gyhoeddiadau.

Wrth ddechreu ar y gorchwyl o gyfansoddi y rhan a benodwyd i mi o Gofiant fy anwyl dad yn yr efengyl, y diweddar Barchedig Cadwaladr Jones o Ddolgellau, nis gallaf lai na mynegu fy adgof cyntaf am dano, a hyny mewn amgylchiad tra hynod a ddygwyddodd yn Llanegryn tua phymtheng mlynedd a deugain yn ol. Nid oedd gan yr Annibynwyr un capel yn y pentref y pryd hwnw, ond cedwid moddion gras