yn y naill dŷ a'r llall. Ar un prydnhawn Sabboth yn yr haf, dygwyddodd fod y gwr parchus yn pregethu yno mewn llofft, i'r hon yr esgynid ar hyd grisiau oddiallan. Yr oedd yr ystafell yn orlawn, a'r hin yn hynod o frwd. Cyn i'r pregethwr fyned yn mhell yn ei wasanaeth, torodd y llofft yn ddisymwth gan fyned fel hopran melin! Disgynai y pregethwr a'i bulpud gyda'u gilydd i'r pentwr. Crochlefai amryw o'r bobl am eu bywyd, yn enwedig y rhai isaf o honynt. Yno y clywid gwyr a gwragedd, a rhieni a phlant, yn dolefain am eu gilydd; a da yr wyf yn cofio fy mod inau yn ymlithro i lawr ar fainc tua'r canol, i'r lle yr oedd pawb yn myned. Gwelid un dyn tàl, ïe, y tàlaf yn y wlad, wedi cael gafael ag un llaw mewn rhywbeth, ac yn hongian felly uwchben y gynnulleidfa. Ond trwy drugaredd yr Arglwydd, ni chollodd neb ei fywyd yno, ac ni anafwyd neb yn dost iawn. Yr hyn sydd fwyaf cofus genyf bob tro y meddyliwyf am yr amgylchiad yw disgyniad y pregethwr i'r pentwr megys un a ddisgynai oddiar geulan i lyn i nofio ynddo; a mwy na'r cwbl, ei dawelwch wedi iddo allu ymryddhau o ganol y tryblith meinciau a dynion; ïe, meddaf ei dawelwch! Ar ol iddo gael ei draed dano, efe a ddywedai yn hollol ddigyffro—"Yn enw dyn, sut y bu hyn!" Braidd na fernid ef gan rai a fuasent yn gwaeddi am eu bywyd, yn bregethwr go anystyriol, am na buasai yntau hefyd yn cyffroi drwyddo ac yn crochlefain fel hwythau. Rhyfedd at ei dawelwch! Pwy ond Cadwaladr Jones o Ddolgellau a allasai feddianu ei hun felly yn y fath amgylchiad cyffrous? Daeth un o'r hynodion penaf yn ei gymmeriad i'r amlwg y pryd hwnw, sef ei bwyll a'i hunanfeddiant. Nid rhyw ddygwyddiad am un tro hynod oedd iddo amlygu ei hun felly, ond gellid dwyn ar gof amgylchiadau ereill hefyd yn ystod ei fywyd, yn y rhai y gwelid ef yn ymddwyn yr un modd a hyn,——yn gymwys fel ef ei hun. Gadawn i'r brodyr ereill gael y cyfleusdra i fynegu hyny, gan na byddai yn weddus i ni sangu eu tiriogaeth.
Rhyw saith neu wyth mlynedd yn y rhan gyntaf o weinidogaeth Mr. Jones yn Nolgellau, ydyw y cyfnod y cyfeirir