Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/122

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ato yn benaf yn yr erthygl hon; a'r rheswm a roddir dros hyny ydyw,—ddarfod i'r ysgrifenydd dreulio y tymmor hwnw dan ei weinidogaeth ef; ac felly, bydd yr hyn a ddywedir ganddo yn cael ei fynegu oddiar wybyddiaeth bersonol o Mr. Jones.

Yn awr, ni a ddechreuwn yn uniongyrchol i grybwyll gair o'n hadgofion am—

EI LYFRGELL.

Nid oedd nifer ei lyfrau gymaint y pryd hwnw mewn cydmariaeth â'r hyn a welid gan ambell un o'i frodyr yn y weinidogaeth, ond yr oeddynt oll yn wir dda, a chan mwyaf ar dduwinyddiaeth. Un o'i brif esbonwyr ar y Beibl yn gyfan oedd Matthew Pool. Mynych y cawsom gyfleusdra i edrych iddo am eglurhad ar yr ysgrythyr. Ei hoff awdwyr duwinyddol oeddynt Jonathan Edwards o America; Bellamy; Dwight; Andrew Fuller; ac yn benaf oll Dr. Edward Williams o Rotherham. Darllenai lawer iawn ar y rhai hyn, yn enwedig gweithiau yr olaf ar "Uniondeb y llywodraeth Ddwyfol, a Phenarglwyddiaeth Dwyfol ras:" gwelid hwn yn gyffredin ar ei fwrdd. Cyfrol drwchus ydoedd yn cynnwys rhanau ereill hefyd o waith yr un awdwr, wedi ei rwymo yn gryf gan Hughes o'r Dinas. Yr oedd gweithiau yr awdwyr uchod yn cynnwys syniadau lled newyddion ar amryw byngciau duwinyddol, y rhai a dybid gan Uchel—Galfiniaid y pryd hwnw eu bod yn gyfeiliornus, afiach, a dinystriol i'r rhai a'u coleddent. Cynyrchion yr enwogion hyn fu yn achlysur o ddadleuaeth frwd yn Nghymru am ryw dymmor, a gelwid eu cyfundrefn yn "System Newydd."

Nid wrth lyfrgell pregethwr y gellir bob amser farnu pa un ai gwych ai gwael yw efe fel y cyfryw. Dichon y gwelir detholiad campus o weithiau prif awdwyr ar dduwinyddiaeth, ac ar amryw ganghenau eraill o wybodaeth fuddiol, yn meddiant ambell un, ac eto na bydd eu perchenog ond rhyw bregethwr canolig. Gwir fod llyfrgell dda yn fantais werthfawr ragorol i'r sawl a wnelo ddefnydd priodol a honi; ond gwyddys mai nid darllen dibaid ddydd a nos a wna bregethwr