Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/123

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

enwog, ond tuedd cryf ynddo hefyd at fyfyrdod ar yr hyn a ddarlleno. Digon tebygol fod ambell un yn darllen mwy nag a wnelai Mr. Jones, er cymaint a ddarllenai yntau; ond yr ydys yn dra sicr nad oedd ond ychydig a ragorent arno mewn myfyrgarwch; yr hyn yn benaf a'i gwnaeth mor ragorol fel duwinydd. Astudiai ei bwnge yn drwyadl, er mae'n wir, mai yn araf a dyogel y gwnelai efe hyny, fel pob peth arall. Yr oedd melin ei fyfyrdod ar waith yn dra mynych.

Mawrhaed y brodyr ieuainge sydd yn awr yn y weinidogaeth efengylaidd eu breintiau mawrion i gasglu gwybodaeth, yn enwedig pob gwybodaeth a'u cymhwyso i lenwi eu swydd bwysig; ond ymdrechant gyda hyny hefyd i fod yn fyfyrwyr gwych. Mae myfyrdod i'r meddwl yr un peth mewn cymariaeth ag ydyw cnöad cîl i'r anifail, yr hyn sydd yn troi ei ymborth yn faeth iddo.

Ar ol ymdroi enyd fechan yn llyfrgell ein "cyfaill, ni a ddaliwn ar y cyfleusdra yn awr i sylwi ychydig ar—

EI BREGETHAU, A'I DDULL YN EU TRADDODI.

Yr oedd ei bregethau bob amser yn eglur, trefnus, ysgrythyrol, a buddiol, ac yn bur hawdd i'w cofio yn gyffredin. Ni cheid ynddynt, mae'n wir, ryw lawer o borthiant i gywreingarwch cnawdol, na blodau lawer i ddifyru y llygaid; ond byddai pob "newynog a sychedig am gyfiawnder" a eisteddai dan ei weinidogaeth, yn sicr o gael ei borthi â bara y bywyd, a'i ddisychedu â dyfroedd yr iachawdwriaeth. Y fath oedd cryfder ei synwyr cyffredin dan ddylanwad gras Duw, fel na ofnid un amser gan neb a'i hadwaenai, y clywid o'i enau ef ddim a fyddai iselwael ac annheilwng o'r areithfa Gristionogol. Yr oedd ei barabl yn rhwydd, ei lais yn beraidd, ei iaith yn goeth, a'i ymddangosiad bob amser yn hawddgar yn ei areithfa. Addefir na chlywid trwst gwlaw mawr, ac na welid llewyrch mellt fflamllyd yn ei bregethau, nac yn ei ddull o'u traddodi; ond defnynai ei athrawiaeth fel gwlithwlaw ar irwellt.

Gyda golwg ar ddull Mr. Jones yn cyfansoddi ei bregethau, ymddengys mai anfynych yr ysgrifenai hwynt yn gyflawn; o'r hyn lleiaf, nid oedd pob un a welsom ni ganddo ond nodiad yn