Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/124

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

unig o "benau y bregeth," yn nghyd â chyfeiriad at yr ysgrythyrau priodol iddynt. Cynnwysid y cyfryw yn gyffredin mewn un tudalen, yr hwn ni byddai nemawr mwy na chledr ei law. Dodai y cyfryw weithiau rhwng dalenau y Beibl yn y pulpud, ond byddai raid iddo wneyd hyny yn no ddirgelaidd rhag i neb o'r hen bobl dduwiol eu gweled. Bernir oddiwrth ffurf ei bregeth ysgrifenedig, na wybu Mr. Jones nemawr erioed yn brofiadol beth oedd darllen ei bregeth yn gyflawn yn ei bulpud, ïe, hyd yn nod ei bregeth Saesoneg ychwaith.

Prif faterion ei weinidogaeth oeddynt, Cyflwr truenus dyn fel pechadur—Aberth Crist—prynedigaeth trwy ei waed ef —ei Berson a'i swyddau cyfryngol—helaethrwydd darpariadau gras—parodrwydd Duw i achub yr edifeiriol—rhwymedigaeth holl ddeiliaid yr efengyl i gredu yn Nghrist—sylfeini cyfrifoldeb dyn—ffynnonellau cólledigaeth a chadwedigaeth dynion—gwaith yr Ysbryd Glân—breintiau y gwaredigion —y sefyllfa ddyfodol. Gan fod Aberth Crist yn destyn dadleuaeth gyhoeddus yn y cyfnod y cyfeiriwn ato, efe a bregethai gryn lawer ar y pwnge pwysig hwn, yn ei amrywiol ganghenau yn nghyda dyledswydd pawb yn ngwlad yr efengyl i gredu yn y Ceidwad.

Nid oedd ein hen gyfaill parchus yn gystal adroddwr o'r ysgrythyrau wrth bregethu ag ydoedd ambell un o'i frodyr, megys Hughes o'r Dinas ac ereill, y rhai oeddynt gofiaduron rhagorol, ac adroddwyr cyhoeddus cywir o'r ysgrythyrau. Tebycach oedd Mr. Jones yn y rhan hon o'i swydd i Mr. Williams o'r Wern. Gwyddai yn dda am yr adnodau priodol i'w faterion, ac yn mha le yr oeddynt, a pha beth oedd eu sylwedd a'u cysylltiadau; ond eu hadrodd yn gywir air yn ngair, nid bob amser y gwnelai efe hyny. Wrth drafod ei fater, adroddai yn gyffredin y rhan flaenaf o'r adnod berthynol iddo, ac yna mynegai sylwedd y rhan olaf o honi, gan ddweyd"Neu eiriau tebyg i hyn'a." Os dewisai efe droi at yr ysgrythyr benodol a fyddai yn ei olwg, yr oedd ganddo ddigon o amynedd i wneyd hyny heb daflu ei hun i brofedigaeth; ond feallai y temtid ambell un o'i hen gyfeillion i ddweyd yn