Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/125

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddystaw rhyngddo ag ef ei hun-"Brysiwch, Cadwaladr Jones, brysiwch." Pwy erioed a'i gwelodd ef wedi colli meddiant arno ei hun yn y pulpud o ddiffyg amynedd a phwyll wrth geisio dyfod hyd i'w adnod, fel y gwelwyd ambell un, ïe, go enwog hefyd yn gwneuthur felly? Côf genym i ni weled ryw dro un o'n duwinyddion penaf mewn profedigaeth felly wrth bregethu. Pan oedd y cyfryw yn nghanol tanbeidrwydd ei yspryd, efe a gyfeiriai i lyfr y proffwyd Esaiah am ysgrythyr i egluro neu i brofi ei bwngc, gan fod yn gwbl sicr yn ei feddwl o'r man lle yr oedd yr adnod i'w chael, am ei fod wedi plygu congl y ddalen; a mynegai wrth y gynnulleidfa ei bod yn adnod "neillduol-neillduol iawn." Ond! er ei ofid, methai a chael gafael ynddi am fod y ddalen rywfodd wedi ei dadblygu! Ni roddai i fynu ei cheisio, ond parhai i floeddio yn ei danbeidrwydd arferol, gan ddywedyd, "Mae gan Esaiah, yn ddigon sicr, adnod neillduol-neillduol ar hyn;" a thröai ddalenau y Beibl cyn gynted a'r gwynt, nes o'r diwedd yr aeth hyn yn brofedigaeth iddo ef ei hun ac i'r gynulleidfa. Yn hytrach na hyny, pe buasai Cadwaladr Jones mewn amgylchiad felly, efe a ddywedasai wrth y bobl gyda phwyll,—"Mi wn fod yr adnod yn rhywle yn llyfr y proffwyd Esaiah; chwilied y naill a'r llall o honoch am dani, pan gaffoch gyfleusdra."

Cymered brodyr ieuaingc yn y weinidogaeth addysg oddiwrth hyn, i drysori yr ysgrythyrau yn eu côf, yn enwedig y rhanau y cyfeiriant atynt yn eu pregethau. Pa un bynag a wnelont ai ysgrifenu eu pregethau yn gyflawn ai peidio, byddai yn werth iddynt, fodd bynag, i gymeryd y drafferth a'r hyfrydwch i gopïo eu hadnodau gyda manylwch a chywirdeb, fel y cofient hwy yn well, ac y dysgont eu hadrodd fel y maent. Dygwydd yn no gyffredin fod pregethwyr ieuaingc yn trysori llawer mwy o'r Beibl yn eu côf cyn myned i Athrofäau, nag a wnant ar ol dyfod oddiyno. Frodyr caredig yn yr Arglwydd, ni ddylai y pethau hyn fod felly.

Weithian ni a drown ein golwg am enyd yn ein hadgofion at Mr. Jones.