Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/126

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

YN GWEINYDDU WRTH FWRDD CYMUNDEB.

Crist croeshoeliedig fyddai prif destyn ei ymadroddion yno yn wastad; a byddai ei ddull pwysig, serchog, ac efengylaidd yn llefaru am hyn yn effeithiol ar deimladau Ꭹ frawdoliaeth. Byddai yn lled dueddol yn gyffredin wrth son am Grist fel Prïodfab Seion, o goffau tystiolaeth y Briodferch am ei Berson yn Nghaniad Solomon-" Beth yw dy anwylyd rhagor anwylyd arall, y decaf o'r gwragedd? Beth yw dy anwylyd rhagor anwylyd arall pan orchymyni i ni felly? Fy anwylyd sydd wỳn a gwridog, yn rhagori ar ddeng mil;" [ac yna, ebe efe, y mae hi yn ei ddarlunio gyda manylwch.] "Melus odiaeth yw ei enau; ïe, y mae efe oll yn hawddgar. Dyma fy anwylyd, dyma fy nghyfaill, O ferched Jerusalem."

Pan y dygwyddai fod rhai o'r newydd yn cael eu derbyn yn aelodau eglwysig, gwnelid hyny yn gyhoeddus wrth y "Bwrdd Cymundeb." Yr oedd efe yn hynod yn ei anerchion i'r cyfryw ar yr achlysur hwnw. Mae un Sabboth neillduol nas annghofir genym yn dragywydd, sef y Sabboth y safai tri bachgen ieuaingc yn ymyl y bwrdd i'w hanerch gan Mr. Jones; ac yr oedd gweled tri, ïe, dim ond tri, y pryd hwnw yn gymaint syndod a phe gwelid tri ugain y blynyddoedd hyn mewn ambell gynnulleidfa. Eu henwau oeddynt, Dafydd Morris, (mab Meurig Ebrill), Owen Davies, ac Evan Evans. O mor dadol a serchog oedd ymadroddion eu Gweinidog wrthynt. Bron na theimla yr ysgrifenydd y munyd hwn wasgiad caredig ei ddeheulaw fel arwydd cyhoeddus o'u derbyniad i blith y saint i fod yn gydgyfranog o'u breintiau. Byddai ei gyfarchiad i'r ychydig a arosent ar ol fel " edrychwyr " yn bur effeithiol yn gyffredin. Nid oeddynt y pryd hwnw ond rhyw chwech neu wyth mewn rhifedi, y rhai a eisteddant yn y Gallery. Côf genym mai y fath fyddai ei appeliadau atynt fel y gorfyddai ar rai o honynt ostwng eu penau, a chuddio eu hwynebau gan euogrwydd a chywilydd am na buasent hwythau hefyd yn dderbynwyr o'r Gwaredwr, ac yn cydgofio am dano gyda'i bobl. Yr oedd dull Mr. Jones wrth eu cyfarch felly mor fwynaidd a phwysig, fel nad oedd yn bosibl i neb o honynt