barn ar yr adnod dan sylw, rhoddai Mr. Jones ei olygiad yntau arni; a rhyngddynt oll byddai Sion yn no debyg o fod wedi cael hollol foddlonrwydd ar ei adnod. Gallasai y Gweinidog, mae'n wir, roddi esponiad iddo ar y cyntaf, heb holi neb arall; ond yr oedd efe bob amser am ranu pob ryw orchwyl o'r fath hyny rhwng y frawdoliaeth, ac nid ei gyfyngu iddo ei hun yn unig. Bryd arall, rhoddid rhyw fater neillduol yn mlaen llaw i'w chwilio ac i'w drafod yn y cyfarfod eglwysig dilynol.
Os dygwyddai fod angenrheidrwydd am roddi rhybudd neu ocheliad i rywun o'r frawdoliaeth a dybid ei fod mewn perygl o syrthio i ryw brofedigaeth neu gilydd, nesai Mr. Jones at y cyfryw i ymddyddan ag ef, nid yn ddisymwth, ond yn raddol, gan ymdroi ychydig yn gyntaf gydag un neu ddau a ddygwyddai fod yn eistedd yn ei ymyl, ac yna ato yntau; ac felly dygai ei amcan i ben yn effeithiol. Os dygid cyhuddiad yn mlaen yn erbyn brawd neu chwaer, ymdrinid â hyny gyda'r pwyll mwyaf. Cai y cyhuddedig eithaf chwareu teg i ateb trosto ei hun, ac ni wneid dim mewn byrbwylldra yn ei achos. Os gwadu cywirdeb y cyhuddiad a wneid, chwilid i'r mater hyd yr eithaf. Os cwympo ar ei fai yn edifeiriol a wnelai Ꭹ troseddwr, yna tywelltid olew i'w friwiau, ac adgyweirid ef mewn yspryd addfwynder. Ni welsom neb erioed mor fanwl ac amyneddgar a Mr. Jones mewn ymdriniad ag achos y sawl a fernid yn haeddu diarddeliad. Gwnelai bob ymdrech a fyddai'n bosibl i ddwyn y troseddwr i edifeirwch, fel y gwaredid ef oddiwrth ei fai, ac fel y diangai yn ngwyneb Gair Duw rhag cael ei dori ymaith o gynnulleidfa y saint. Er hyny, nid oedd tynerwch a phwyll ein hen gyfaill yn ei atal i fod yn llym pan fyddai gwir angenrheidrwydd am hyny, yn ei swydd fel Gweinidog yn yr eglwys, nac fel tad yn ei deulu. Dygwyddodd i'r ysgrifenydd fod yn ei dŷ unwaith ar achlysur o gerydd teuluaidd. Ar ei fynediad i mewn, efe a welai Mr. Jones yn sefyll ar lawr y gegin, a gwialen yn ei law, ac un o'i fechgyn yn ei ymyl, yr hwn oedd o ddeg i ddeuddeg oed feddyliem. Ni welem neb arall yno ar y pryd ond hwy ill dau. "Wel, Evans," ebe fe, gyda'i serchawgrwydd arferol,