Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/129

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"sut yr ydych? Sut y mae'r teulu? Eisteddwch yn y gadair yna, mi ddof atoch yn union." Gyda hyny dywedai wrth ei fab, "Tyr'd di gyda mi." A dacw y ddau yn myned bob yn gam i'r ystafell bellaf yn y tŷ. Cauid y drws. Yn mhen ryw funyd neu ddau, dyma swn gwialen-nodiau ar gefn y troseddwr, a chyda hyny ambell wawch allan nes y cyd-deimlai y gwr dyeithr yn y gegin a'r bachgen, bron gymaint a phe buasai ef ei hun dan y cerydd. Aeth yr oruchwyliaeth hono trosodd yn ebrwydd. Yna daeth y ceryddwr tadol allan oddiyno gam bwyll i'r gegin; ac wrth roddi y wialen o'i law, dywedai yn lled ddigyffro, "Wel, Evans bach, dyma'r helynt a geir wrth fagu plant; ond y mae'n rhaid eu ceryddu, a hyny yn no lym hefyd ambell waith, pan byddo'r trosedd yn galw am hyny. Ydyw Mrs. Evans yn iach?"

Pan y mae y tad caredig a thyner galon erbyn hyn yn gorphwys yn ei fedd, diau genym nad yw'r amgylchiad a grybwyllasom ddim wedi myned yn annghof gan ei anwyl fab; ond ei fod yn adgofio am dano gyda chalon ddiolchgar. "Ni a gawsom dadau ein cnawd i'n ceryddu, ac a'u parchasom hwy; onid mwy o lawer y byddwn ddarostyngedig i Dad yr ysbrydoedd, a byw?"

Ond ni addychwelwn am ychydigetto iddweyd gair yn mhellach am ddull Mr. Jones yn gweinyddu dysgyblaeth eglwysig.

Os dygwyddai fod rhyw gymaint o annghydfod rhwng rhai o'r frawdoliaeth â'u gilydd (yr hyn ni chymerai le ond anfynych iawn) ni cheid ei ragorach i'w dwyn i ymheddychu. Côf genym ei glywed unwaith yn ymdrin â mater dwy chwaer ag y cymerasai rhyw ffrwgwd le rhyngddynt â'u gilydd. Dacw Mr. Jones yn cyfodi oddiwrth y bwrdd, ac yn myned bob yn gam tuag atynt ill dwy. Yna dechreuai holi ychydig arnynt yn hynod o bwyllus, a hyny gyda'r fath ddifaterwch ymddangosiadol ag a barai i bawb ystyriol ddiflasu byth ar feddwl ffraeo â neb. Fel yr elai yn mlaen, dechreuai un o honynt ymgynhyrfu yn ei thymherau, a myned yn o siaradus. "Aros di," ebe fe wrthi, "y mae'n ddigon i un o honoch siarad ar y tro; treia di fod yn ddistaw am dipyn." Yna hi a ymlonyddai ronyn