bach. Ond fel Ond fel yr elid yn mlaen, gormod gorchwyl i'r ddwy fyddai ymatal rhag ymdaeru yn boethlyd. Byddai ei wên a'i dawelwch yntau yn ddigon i gyfodi gwrid yn eu hwynebau. "Wel, yn wir," ebe fe, "yr ydych ill dwy yn debycach i blant nag i ferched mewn oed. Wyt ti ddim yn meddwl hyny?" Gostyngai hono ei phen. Yn mhen enyd, ceid clywed barn Mr. Jones ar y mater, a hyny drachefn gyda'r tawelwch mwyaf! "Y mae y naill a'r llall o honoch wedi colli eich lle; ond hi wedi colli ryw ychydig yn fwy na thi. Yr wyf yn meddwl mai gwell fyddai i chwi faddeu i'ch gilydd, a bod yn ffrindiau megys cynt. Wyt ti yn foddlawn i hyny?" "Ydw i." "Wyt tithau?" "Ydw i, Mr. Jones, soniai byth am dano." "Wel, da iawn, o'r goreu, ferched bach." Ar ol cael barn y cyfeillion ar y mater, dywedai wrth y ddwy. "Ysgydwch ddwylaw â'ch gilydd, a chymerwch ofal rhag ffraëo byth ond hyny.” Yna estynai y naill ei llaw i'r llall; a dyna y ffrwgwd hwnw drosodd am byth. Yn hytrach na rhoddi defnyddiau hylosg i'r gwreichion fyned yn danllwyth, trwy drin y mater mewn tymher ffyrnig, efe a'u diffoddai trwy ei amynedd a'i ddoethineb. "Gwyn eu byd y tangnefeddwyr;" nid yn unig y rhai sydd yn dangnefeddus o ysbryd eu hunain, ond y rhai sydd hefyd yn ymdrechgar i ddwyn eraill i fod mewn tangnefedd â'u gilydd. "Blessed are they that are peacemakers.”
Ar dderbyniad aelodau newyddion, byddai yn hynod o fanwl. Ni osodai ryw nifer penodol o erthyglau cred yn ammod eu derbyniad; ond ymofynai yn bwyllus a manwl hyd y byddai bosibl am arwyddion fod y cyfryw ymgeiswyr am aelodaeth eglwysig wedi eu dwyn i weled ac i deimlo eu cyflwr fel pechaduriaid colledig, a'u bod yn ymddiried yn yr Arglwydd Iesu Grist fel yr unig a'r digonol Waredwr. Etto, ni byddai ei fanylwch y fath ag a barai i'r gweiniaid ddigaloni; ond efe a'u cynghorai yn garedig, ac a'u cyfarwyddai felly yn yr iawn ffordd. Yr unig gwestiwn y rhan fynychaf a roddai efe i'r cyfryw fyddai hwn,—“A ydych yn penderfynu yn nghymorth gras i gymeryd y Beibl yn rheol anffaeledig eich ffydd a'ch ymarweddiad?"